Mae Universidad de Deusto yn cynnwys dau gampws, a leolir yn Bilbao a San Sebastian. Os byddwch yn treulio cyfnod fel myfyriwr cyfnewid Sbaeneg, cewch eich lleoli ar gampws Bilbao. Bilbao yw prifddinas rhanbarth Biscaia yng Ngwlad y Basg, Sbaen ac mae'r hinsawdd yn fwynach yno nag yn y rhan fwyaf o'r rhannau eraill o'r penrhyn. Anaml iawn y mae'r tymheredd yn gostwng o dan y rhewbwynt yn y gaeaf neu'n codi uwchlaw 35ºC yn yr haf. Mae'n ddinas busnes a diwylliannol fawr yng ngogledd Sbaen, ac mae'n llawn traddodiad a diwylliant. Caiff Gwlad y Basg ei chydnabod yn rhyngwladol am ei bwyd rhanbarthol, sef pintxos (tapas yn yr iaith Fasgeg). Mae amrywiaeth o opsiynau llety ar gael yn Bilbao, o neuaddau myfyrwyr i fflatiau i'w rhannu a lleoedd gyda theuluoedd lleol, a gall y brifysgol roi cyngor i fyfyrwyr ar sut i wneud cais.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.

Myfyrwyr yn astudio gyda'i gilydd