Mae unrhyw gyfeiriad at gostau, ffioedd, tystiolaeth ariannol a gwybodaeth am fisâu at ddibenion arweiniad cyffredinol yn unig ac yn amodol ar newid ar unrhyw adeg.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at wybodaeth a ddarperir gan brifysgolion lletyol a thudalennau gwe llywodraeth/llysgenhadaeth y wlad dan sylw am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Lleolir y brifysgol ar gyrion Barcelona ac mae’n agos at Barc Natur Serra de Collserola. Gallwch ddisgwyl gaeafau mwyn a hafau poeth. Mae’r brifysgol yn adnabyddus am ei hansawdd addysgu a’i hymchwil rhagorol a dyma’r 145ain brifysgol orau yn nhabl cynghrair y byd y THE. Gall myfyrwyr sy’n dod i UAB ddewis i ymgymryd â chyrsiau Catalaneg i’w helpu i gynefino â bywyd yng Nghatalonia. Mae nifer y lleoedd yn neuaddau’r myfyrwyr yn gyfyngedig felly byddwch yn barod i chwilio oddi ar y campws am lety a dechreuwch y broses cyn gynted â phosib.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.
