Lleolir y Brifysgol yng nghanol Valencia ar arfordir dwyrain Sbaen heb fod ymhell o’r môr mewn car.  Ceir gaeafau byr, mwyn yn Valencia, ynghyd â hafau hir, poeth a sych, sydd ychydig yn wahanol i’r hyn rydych wedi cyfarwyddo ag ef yn Abertawe! Mae’r brifysgol hon yn un o’r prifysgolion hynaf yn Sbaen ac mae ganddi draddodiad ymchwil cadarn. Mae nifer y lleoedd yn neuaddau’r myfyrwyr yn gyfyngedig felly byddwch yn barod i chwilio oddi ar y campws am lety a dechreuwch y broses cyn gynted â phosib.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.

Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd