Mae gan Sweden, neu Deyrnas Sweden yn swyddogol, lawer i'w gynnig i fyfyrwyr sy'n awyddus i symud yno fel rhan o'u cyfnod dramor. Mae gan Sweden filoedd o ynysoedd arfordirol i'w darganfod, llynnoedd mewndirol helaeth a mynyddoedd â chopaon eira. Mae'n bosibl gweld goleuadau'r gogledd yn Lapdir Sweden rhwng mis Medi a mis Mawrth hefyd, felly efallai y byddwch yn ddigon lwcus i weld y ffenomen naturiol hon. Ar ôl cyrraedd Sweden, bydd yn ddigon hawdd i chi grwydro i wledydd eraill Sgandinafia er mwyn cael profiad gwirioneddol Lychlynnaidd.
Caiff Prifysgol Abertawe ei phartneru â'r canlynol: