Yn chwilio am brofiad cwbl wahanol? Mae Tsieina yn lle amrywiol ei diwylliant, ei hiaith, ei thraddodiadau a'i heconomi. Mae dinasoedd mawr fel Beijing, Guangzhou a Shanghai yn fodern ac yn gymharol gyfoethog. Fodd bynnag, mae tua 50% o'r bobl yn dal i fyw mewn ardaloedd gwledig. Mae maint y wlad yn golygu bod yr hinsawdd yn amrywiol iawn, o ardaloedd trofannol yn y de i ardaloedd isarctig yn y gogledd. Ar y cyfan, mae'r bobl yn defnyddio llai o wres, llai o ddeunydd inswleiddio adeiladau ac yn gwisgo dillad cynhesach na Gorllewinwyr sy'n byw mewn hinsoddau tebyg, felly cofiwch hynny pan fyddwch yn pacio eich cês dillad. Bydd angen fisa arnoch i deithio i dir mawr Tsieina. Fodd bynnag, mae'r rheoliadau'n wahanol ar gyfer Hong Kong.
Caiff Prifysgol Abertawe ei phartneru â'r canlynol