Mae unrhyw gyfeiriad at gostau, ffioedd, tystiolaeth ariannol a gwybodaeth am fisâu at ddibenion arweiniad cyffredinol yn unig ac yn amodol ar newid ar unrhyw adeg.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at wybodaeth a ddarperir gan brifysgolion lletyol a thudalennau gwe llywodraeth/llysgenhadaeth y wlad dan sylw am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Prifysgol ymchwil gyhoeddus yw Prifysgol Talaith San Francisco, sy’n rhan o system prifysgolion Talaith Califfornia sy’n cynnwys 23 o gampysau, a leolir yng Nghaliffornia, yr Unol Daleithiau. San Francisco, sy’n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, yw canolfan ddiwylliannol, fasnachol ac ariannol Gogledd Califfornia, sy’n enwog am ei hinsawdd Ganoldirol gyda hafau twym, ei chymysgedd eclectig o bensaernïaeth a’i thirnodau. Mae Prifysgol Talaith San Francisco’n cynnig rhaglenni ardderchog yn y Celfyddydau Rhyddfrydol a Chreadigol, Busnes, Addysg, Astudiaethau Ethnig, Iechyd a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Llysenwir timau athletau rhyng-golegol yr ysgol y Gators, ac mae ei chyfleusterau athletau yn cynnwys Stadiwm Cox, Maes Maloney a’r Gampfa. Yn lleol, gallwch ymweld â’r Golden Gate Bridge, carchar ffederal gynt, Alcatraz, Fisherman’s Wharf, yr ardal Tsieineaidd a pharc Alamo Square, sy’n gartref i’r “Painted Ladies” enwog.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.
Stori myfyriwr
