Lleolir y Ffindir yng Ngogledd Ewrop ac mae'n ffinio â Rwsia i'r dwyrain, Norwy i'r gogledd a Sweden i'r gorllewin. Er bod Ffiniaid yn byw yn un o'r gwledydd mwyaf datblygedig yn dechnolegol yn y byd, maent wrth eu bodd yn treulio amser yn eu bythynnod haf yn ystod y misoedd cynhesaf yn ymlacio yn eu sawna, yn nofio, yn pysgota ac yn coginio bwyd barbeciw. Bydd y cabanau coed yma yn dod yn olygfa gyfarwydd pan fyddwch yn dechrau crwydro'r wlad. Mae'r gaeafau'n oer ac yn dywyll iawn a bydd angen cofio hynny wrth bacio eich cês dillad! Gallwch ddisgwyl rhywfaint o eira cyn hwyred â mis Mawrth neu fis Ebrill...
Caiff Prifysgol Abertawe ei phartneru â'r canlynol