Lleolir y brifysgol yn Helsinki yn y Ffindir, ychydig dros ddwy awr o'r ffin â Rwsia. Mae'r gaeafau'n oer gyda thymereddau o dan y rhewbwynt. Mae'r lledred yn golygu bod llai o olau dydd ac felly mae'r gaeafau'n dywyllach hefyd. Mae Helsinki yn mwynhau diwrnodau hir o olau dydd yn ystod yr haf a thymereddau mwynach. Pan fyddant yn cyrraedd Diakonia, bydd myfyrwyr yn cyfarfod â mentor rhyngwladol a fydd yn gallu eu tywys o amgylch y campws a rhoi gwybodaeth ymarferol iddynt. Bydd y brifysgol hefyd yn rhoi cyngor i fyfyrwyr ar ddod o hyd i lety.