Mae Prifysgol Reutlingen, a leolir yn ne'r Almaen, yn gartref i oddeutu 5,800 o fyfyrwyr ac mae chwarter ohonynt yn fyfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr cyfnewid. Mae gan Reutlingen boblogaeth o oddeutu 110,000 o bobl ac fe'i lleolir tua 19 milltir i'r de o Stuttgart. Mae myfyrwyr o Brifysgol Abertawe yn Ysgol Fusnes ESB Reutlingen ar hyn o bryd, lle cynigir rhaglenni BSc Cysylltiadau Rhyngwladol ynghyd â rhaglenni Rheoli Gweithrediadau.
