Lleolir y brifysgol yn Bonn ar lannau afon Rhine; awr mewn car i'r de o Cologne ac awr a hanner o'r ffin â Gwlad Belg. Bonn yw un o'r ardaloedd cynhesaf yn yr Almaen; mae'r gaeafau braidd yn oer ond mae'r hafau'n gymharol fwyn. Bonn oedd y brifysgol a fynychwyd gan Karl Marx a Friedrich Nietzsche. Mae cyrsiau Almaeneg ar gael i fyfyrwyr sy'n awyddus i wella eu Halmaeneg. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael mewn llety yn Bonn a chaiff myfyrwyr eu cynghori i ddechrau chwilio yn gynnar a chwilio am lety preifat hefyd.
