Mae Augsburg yn Bavaria – sef awr mewn car o Munich. Mae’n debygol y byddwch yn cael profiad o aeafau caled gydag eira a rhew a hafau cynnes. Mae Augsburg yn brifysgol gymharol ifanc gyda charfan o fyfyrwyr rhyngwladol uchel. Ni roddir gwarant o le mewn llety neuaddau preswyl i fyfyrwyr cyfnewid, ac mae’r lleoedd yn llenwi’n gyflym felly bydd angen i chi chwilio am ystafell cyn gynted ag y bo modd. Byddwch yn barod i chwilio am lety oddi ar y campws.
