Lleolir Prifysgol Bologna yn Bologna yng ngogledd yr Eidal, sef awr a hanner i’r gogledd-ddwyrain o Fenis ac awr a hanner i’r de-orllewin o Fflorens. Gall hafau yn Bologna fod yn boeth iawn ac yn llaith a gall y gaeafau fod yn eithaf oer er nad yw hi’n bwrw eira’n aml. Bologna yw’r brifysgol hynaf i weithredu’n barhaus ac mae’n sefydliad arweiniol yn yr Eidal. Mae nifer y lleoedd yn neuaddau’r myfyrwyr yn gyfyngedig felly byddwch yn barod i chwilio oddi ar y campws am lety a dechreuwch y broses cyn gynted â phosib.
