Lleolir y brifysgol yn Groningen, ychydig o dan ddwy awr o Amsterdam a 40 munud o'r ffin â'r Almaen. Mae'r hafau yn Groningen yn gynnes ac yn fwll. Mae'r gaeafau braidd yn oer ac mae rhew yn gyffredin. Mae eira yn disgyn yn aml ond nid yw'n dueddol o aros yn hir.   Mae gan y brifysgol rwydwaith weithgar iawn o Fyfyrwyr Erasmus sy'n trefnu dros 150 o ddigwyddiadau'r flwyddyn, felly mae digon i gymryd rhan ynddo. Nid oes llety ar gael ar y campws ond bydd y Swyddfa Ryngwladol yn Groningen yn eich cyfeirio at ddarparwyr allanol.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.

Myfyrwyr yn astudio gyda'i gilydd