Trosolwg o'r Cwrs
Rhowch hwb i'ch dyfodol gyda gradd MSc mewn Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe.
Bydd astudio gradd MSc mewn Peirianneg Awyrofod yn Abertawe yn rhoi dealltwriaeth drwyadl a systematig i chi o'r diwydiant awyrofod deinamig, gan roi'r ymwybyddiaeth a'r wybodaeth feirniadol sydd eu hangen arnoch i ddod yn beiriannydd awyrofod hyderus.
Byddwch yn elwa o gwricwlwm sy’n cael ei arwain gan ymchwil a'i lywio gan y diwydiant, ar draws meysydd aerodynameg, mecaneg strwythurol, deunyddiau, deinameg hediadau, gan sicrhau bod eich dysgu'n cysylltu damcaniaeth â heriau peirianneg dilys o ran cynaliadwyedd, digidoleiddio a systemau'r gofod.
Bydd eich astudiaethau'n cynnwys cymysgedd o ddamcaniaeth a dysgu ymarferol. Cewch eich paratoi o ran damcaniaeth a gweithrediad cerbydau awyrennol, o awyrennau a gaiff eu gyrru gan bropelorau ac a gaiff eu pweru gan jetiau, i hofrenyddion a gleiderau, gan gynnwys eu dyluniad, eu dadansoddiad, eu profi a'u hediad.
Mae profiad ymarferol yn cael ei wreiddio trwy gydol y rhaglen, a bydd eich astudiaethau'n cael eu cyfoethogi ymhellach gyda mynediad at ein cyfleusterau awyrofod o safon fyd-eang, gan gynnwys un o efelychiadau hedfan gorau'r byd, sydd yn yr Ysgol Peirianneg.
