Peirianneg y Gofod, MSc

131 gorau yn y Byd ar gyfer Peirianneg - Fecanyddol, Awyrofod a Gweithgynhyrchu

QS World University Rankings 2025

Space craft launch

Trosolwg o'r Cwrs

Ewch ar daith gyffrous i'r cosmos trwy ein cynllun gradd deinamig mewn Peirianneg y Gofod! Ymchwiliwch yn ddwfn i ddirgelwch y gofod wrth i chi feithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o ddylunio llongau gofod ac egwyddorion peirianneg.

Paratowch i lansio gyrfa gyffrous yn sector y gofod wrth i ni roi i chi’r holl ymwybyddiaeth feirniadol a'r mewnwelediad angenrheidiol i’ch galluogi i ragori fel Peiriannydd y Gofod. O ddylunio a gweithgynhyrchu lloerenni i’w gweithredi a’u lansio i’r gofod, o dechnoleg arloesol ar gyfer cerbydau lansio i systemau gyriant sy'n gwthio ffiniau archwilio, byddwch chi'n ei archwilio i gyd.

Nid yw ein rhaglen 12 mis yn ymwneud â theori yn unig - mae'n cynnig profiad ymarferol a chymwysiadau byd go iawn. Cymerwch ran mewn prosiect dylunio mewn grŵp gan gydweithredu ag arbenigwyr o fyd diwydiant i fynd i'r afael â heriau. Yna, cewch gyfle i ymgymryd â phrosiect ymchwil unigol, dan arweiniad ein tîm academaidd arbenigol trwy fodiwl cyflwyniadol unigryw sy'n gosod y llwyfan ar gyfer ymchwil sy'n torri tir newydd.

Nid rhaglen beirianneg arferol yw hon. Rydym wedi llunio ein cwricwlwm yn ofalus i gyfuno arbenigedd mewn systemau arbenigol y gofod â'r datblygiadau diweddaraf mewn technegau peirianneg trawsddisgyblaethol.

Dewch yn rhan o genhedlaeth newydd o beirianwyr y gofod sy'n llywio dyfodol archwilio.

Pam Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gan yr adran Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe enw da ledled y byd ac mae ei gwaith yn denu diddordeb a sylw o bob cwr o'r byd.

Mae Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe yn cael ei rhoi yn y safleoedd canlynol:

  • Safle 131 yn y Byd ar gyfer Peirianneg - Fecanyddol, Awyrofod a Gweithgynhyrchu (QS World University Rankings 2025)
  • 100% yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Eich profiad ym maes Peirianneg Awyrofod

Mae gwaith ymchwil o'r radd flaenaf ym maes awyrofod yn llywio addysgu o ansawdd uchel mewn amgylchedd dysgu arloesol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae gan y Brifysgol gysylltiadau cadarn â'r diwydiant ac o ganlyniad, rydym wedi ennill ein plwyf fel sefydliad arweiniol ym maes datblygu peirianneg. Rydym yn gweithio â chwmnïau o'r radd flaenaf, megis Tata, Rolls-Royce, Airbus, BAE Systems a HP.

Gallwch ddisgwyl budd o'r cydberthnasau gwaith agos ag arbenigwyr yn y diwydiant.

Ceir cymorth astudio pellach drwy fynediad 24 awr i'n llyfrgell ar y safle, labordai cynhwysfawr, rhaglen o ddarlithoedd gwadd drwy gydol y flwyddyn, ac ystafelloedd gwaith penodedig i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Cyfleoedd cyflogaeth ym maes Awyrofod

Mae graddedigion MSc mewn Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe mewn sefyllfa dda i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth gwerthfawr. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol.

  • Peiriannydd dylunio awyrennau
  • Peiriannydd dylunio lloerenni
  • Peiriannydd systemau awyrennau
  • Gwyddonydd rocedi
  • Peiriannydd cynnal a chadw ac atgyweirio (MRO) awyrennau
  • Peiriannydd amddiffyn
  • Peilot cwmni awyrennau

Modiwlau

Mae ein MSc yn cynnig detholiad o fodiwlau gorfodol a dewisol 10 credyd ar bynciau gan gynnwys Systemau Gofod Uwch, Dylunio System Cerbydau Lansio a RF a Microdonnau.

Mae yna hefyd brosiect grŵp gwerth 30 credyd a phrosiect traethawd hir gwerth 60 credyd.