Peirianneg Fecanyddol, MSc

131 gorau yn y Byd ar gyfer Peirianneg - Fecanyddol, Awyrofod a Gweithgynhyrchu

QS World University Rankings 2025

Racing car

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MSc mewn Peirianneg Fecanyddol yn cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau peirianneg fecanyddol modern, gan gyflwyno enghreifftiau o wahanol ddisgyblaethau a diwydiannau.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig rhagolygon ardderchog ar gyfer y dyfodol ac yn ddelfrydol os ydych wedi cwblhau gradd israddedig ac yn awyddus i ddatblygu eich gwybodaeth cyn chwilio am waith.

Byddwch yn ymdrin â phynciau sy'n cynnwys adnoddau peirianneg fecanyddol, technegau datrys problemau, llunio data arbrofol a chymwysiadau go iawn. Bydd eich prosiect ymchwil yn hynod berthnasol i ddiwydiant.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi wneud ail flwyddyn ychwanegol ar gyfer Prosiect neu Leoliad Gwaith ym myd diwydiant, gan roi profiad gwaith gwerthfawr i chi a'r cyfle i wella sgiliau technegol a rhyngbersonol.

Mae cymorth ac arweiniad ar gael i helpu i sicrhau eich lleoliad gwaith ond nid yw hyn wedi'i warantu. Ffioedd cwrs yr ail flwyddyn yw £3600 i fyfyrwyr rhyngwladol a £1800 i fyfyrwyr cartref. Gweler rhagor o fanylion am Sut i Gyflwyno Cais am yr MSc gyda Diwydiant isod.

Pam Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Abertawe?

Y Ganolfan Ymchwil Deunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe yw'r ganolfan fwyaf arloesol yn y DU ar gyfer addysg a gwaith ymchwil ym maes peirianneg deunyddiau, ac fe'i hariennir gan sefydliadau arbennig megis Rolls-Royce, Airbus, yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd a Tata Steel.

A wyddoch chi?

  • Safle 131 yn y Byd ar gyfer Peirianneg - Fecanyddol, Awyrofod a Gweithgynhyrchu (QS World University Rankings 2025)
  • 100% yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Rydym yn rhyngweithio'n agos â chwmnïau mawr fel Tata Steel a Ford, yn ogystal â busnesau bach a chanolig. Rydym wedi gweithio gyda'r canlynol: Astra-Zeneca, British Aerospace, Qinetiq, GKN, Rolls-Royce, SKF, Freeport, One Steel a Barrick Gold.

Eich profiad ym maes Peirianneg Fecanyddol

Mae eich profiad MSc mewn Peirianneg Fecanyddol yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau sy'n berthnasol i'r maes.

O ddatblygu adnoddau a thechnegau peirianneg fecanyddol er mwyn datrys problemau, i gymhwyso dulliau busnes a rheoli, erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn beiriannydd mecanyddol o fri.

Byddwch yn meddu ar y gallu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch y ffordd fwyaf priodol o ymdrin â gwahanol broblemau peirianneg fecanyddol.

Caiff eich astudiaethau eu cyfoethogi gan gymuned ryngwladol o dros 500 o fyfyrwyr ôl-raddedig a 120 o aelodau o staff ymchwil yn y Coleg Peirianneg.

Ceir cymorth astudio pellach drwy fynediad 24 awr i'n llyfrgell ar y safle, labordai cynhwysfawr, rhaglen o ddarlithoedd gwadd drwy gydol y flwyddyn, ac ystafelloedd gwaith penodedig i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Cyfleoedd cyflogaeth ym maes Peirianneg Fecanyddol

Mae graddedigion MSc mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Abertawe mewn sefyllfa gadarn i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth gwerthfawr. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol.

  • Peiriannydd modurol
  • Peiriannydd cynnal a chadw
  • Peiriannydd mecanyddol
  • Peiriannydd mwyngloddio
  • Peiriannydd dylunio
  • Technegydd gweithdy
  • Peiriannydd dibynadwyedd
  • Peiriannydd straen
  • Peiriannydd mecatroneg
  • Peiriannydd datrysiadau

Modiwlau

Mae blwyddyn gyntaf y cwrs MSc mewn Peirianneg Fecanyddol yn cynnwys modiwlau 10-credyd gorfodol a dewisol ar bynciau sy'n cynnwys prosesu polymerau, deunyddiau cyfansawdd, mecaneg solet uwch a systemau cynhyrchu pŵer.

Byddwch yn treulio eich ail flwyddyn gyfan yn cwblhau prosiect traethawd hir ym maes peirianneg fecanyddol, sydd werth 60 o gredydau.

Mae'r modiwlau yn y tabl isod ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ym mis Ionawr 2024. Ar gyfer modiwlau a fydd yn dechrau ym mis Ionawr 2025, gweler y MSc Engineering - January 2025 (CY).