Sgip i brif cynnwys
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg Awyrofod,Sifil, Drydanol a Mecanyddol
  5. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Sifil
  6. Peirianneg Gyfrifiadurol, MSc
  • Astudio
    • Astudio
      Students studying in Singleton Park campus library

      Dechreuwch eich taith yma

      Astudiwch gyda ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Clirio yn Abertawe
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid i'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Prosbectws Israddedig
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Storïau Myfyrwyr
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
    • Cydweithredwch â ni
      • Datblygu eich prosiectau
      • Manteisio ar wybodaeth ein hymgynghorwyr
      • Cyfleoedd Cyllid YDA
    • Recriwtio ein Doniau
      • Recriwtio ein Myfyrwyr a'n Graddedigion
      • Cwrdd â’n myfyrwyr
      • Hysbysebu eich swyddi gwag
    • Datblygu eich Gweithlu
      • Gweld ein cyrsiau
    • Defnyddio ein Gwasanaethau Masnachol
      • Gofyn am gymorth gyda phrosiect
      • Hysbysebu eich sefydliad
      • Dod yn gyflenwr
    • Llogi ein Cyfleusterau
      • Cael mynediad at ein cyfleusterau ymchwil
      • Cynnal digwyddiad
    • Gweithio gyda ni
      • Ymuno â’n rhwydwaith cydweithredol
      • Cysylltu â’n tîm ymgysylltu â busnesau
      • Cadw mewn cysylltiad
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg Awyrofod,Sifil, Drydanol a Mecanyddol
  5. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Sifil
  6. Peirianneg Gyfrifiadurol, MSc

Peirianneg Gyfrifiadurol, MSc

Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Dewiswch Llawn Amser neu Ran Amser.

Dewiswch y math o gwrs

Dewiswch y dyddiad dechrau.

  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr
  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr
  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr
  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr

Dewiswch Llawn Amser neu Ran Amser.

Dewiswch y math o gwrs

Dewiswch y dyddiad dechrau.

  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr
  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr
  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr
  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr
Cadwch Mewn Cysylltiad

Manylion Allweddol y Cwrs

MSc 1 Blynedd Llawn Amser
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
2.2
Lleoliad
Campws Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu
Med 2025 £ 12,450
MSc 2 Flynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
2.2
Lleoliad
Campws Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2025 £ 11,500
MSc 2 Flynedd Rhan Amser
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
2.2
Lleoliad
Campws Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2025 £ 6,250
MSc 3 Blynedd Rhan Amser
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
2.2
Lleoliad
Campws Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2025 £ 4,150
MSc 1 Blynedd Llawn Amser
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
2.2 - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu
Med 2025 £ 23,350
MSc 2 Flynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
2.2 - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2025 £ 23,350
MSc 2 Flynedd Rhan Amser
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
2.2 - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2025 £ 11,700
MSc 3 Blynedd Rhan Amser
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
2.2 - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2025 £ 7,800

Un o’r 131 Uchaf yn y Byd (Peirianneg Mecanyddol ac Awyryddol)

QS World University Rankings 2025

Marine Turbine
  • Trosolwg
  • Rhagor
    • Related Pages
    • Back
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan
    • Diwrnodau Agored
    • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
    • Ffioedd ac Ariannu
    • Cyrsiau Trosi
    • Sut i Wneud Cais
    • Rhaglenni Ymchwil
    • Llety
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg Awyrofod,Sifil, Drydanol a Mecanyddol
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Awyrofod
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Sifil
        • MSc mewn Peirianneg Sifil
        • Peirianneg Gyfrifiadurol, MSc
        • MSc mewn Mecaneg Gyfrifiadurol
        • MSc mewn Arwain a Rheoli Peirianneg
        • MSc mewn Rheoli Adeiladu Diwydiannol
        • MSC mewn Peirianneg Strwythurol
        • MSc mewn Rheoli Peirianneg Gynaliadwy ar gyfer Datblygu Rhyngwladol
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Electronig a Thrydanol
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Gyffredinol
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Fecanyddol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Biowyddorau, Daearyddiaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir iechyd a gofal cymdeithasol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Fathemateg a Chyfrifiadureg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
    • Cyrsiau Ôlraddedig Ysgol Seicoleg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
    • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol ar gyfer myfyrwyr sy'n awyddus i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu dulliau cyfrifiadol a’u rhoi ar waith ar gyfer efelychu’n rhithwir amrywiaeth eang o broblemau ffisegol, gan gynnwys mecaneg solet, deinameg hylifau, symudiad tonnau ac aml-ffiseg.

Mae ymgeiswyr am y cwrs MSc hwn fel arfer yn fyfyrwyr sydd â chefndir mewn peirianneg (fecanyddol, awyrofod, sifil neu drydanol) neu wyddoniaeth (mathemateg, ffiseg). Rhaglen amlddisgyblaethol yw hon, gyda modiwlau sy'n addas i'r rhai sydd am ddatblygu sgiliau peirianneg gyfrifiadol er mwyn gwella eu gyrfaoedd ym maes peirianneg a gwyddoniaeth.

Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau rhaglennu cadarn a bydd modd iddynt deilwra eu gradd drwy ddewis arbenigo yn un o'r dwy maes sydd ar gael iddynt:

Dulliau a ysgogir gan ddata: Bydd y myfyrwyr yn arbenigo mewn integreiddio dulliau rhifiadol a thechnegau dysgu peirianyddol gyda data mawr er mwyn datrys problemau peirianyddol a gwyddonol y byd go iawn.

Technegau rhifiadol: Bydd y myfyrwyr yn arbenigo mewn datblygu a dadansoddi dulliau cyfrifiadol modern, gan ganolbwyntio'n arbennig ar waith ymchwil.

Mae'r MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol yn un o'r tri chwrs MSc Cyfrifiadol y mae Prifysgol Abertawe yn eu cynnig. Gallwch weld rhestr lawn o'r rhaglenni yma.

Pam astudio Peirianneg Gyfrifiadol?

Erbyn hyn mae modelu ac efelychu cyfrifiadurol yn ddull sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth mewn diwydiant, nid yn unig i ategu arbrofion a damcaniaethau, ond hefyd fel dull darganfod. Mae'r maes yn tyfu'n gyflym oherwydd cymhlethdod cynyddol y problemau a wynebir gan fyd diwydiant a’n cymdeithas. Mae'r problemau hyn yn cynnwys yr angen i liniaru'r newid yn yr hinsawdd, yr angen i ddyfeisio deunyddiau newydd ac i optimeiddio cydrannau, systemau, a phrosesau, ac enwi ychydig yn unig.

Yr unig ffordd o fynd i'r afael â'r heriau hyn yw drwy ddefnyddio peirianneg gyfrifiadol i ategu gwaith arbrofol. Mae offer cyfrifiadol hefyd yn darparu llwybr unigryw i gwmnïau leihau amser-i'r-farchnad ac amser-i-weithgynhyrchu ar gyfer eu cynnyrch. Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae defnyddio data mawr a dysgu peirianyddol i ddiweddaru'r modelau'n gyson hefyd wedi agor y drws i ddatblygu gefeilliaid digidol mewn sawl maes peirianneg a gwyddoniaeth.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi wneud ail flwyddyn ychwanegol ar gyfer Prosiect neu Leoliad Gwaith ym myd diwydiant, gan roi profiad gwaith gwerthfawr i chi a'r cyfle i wella sgiliau technegol a rhyngbersonol.

Mae cymorth ac arweiniad ar gael i helpu i sicrhau eich lleoliad gwaith ond nid yw hyn wedi'i warantu. Ffioedd cwrs yr ail flwyddyn yw £3600 i fyfyrwyr rhyngwladol a £1800 i fyfyrwyr cartref. Gweler rhagor o fanylion am Sut i Gyflwyno Cais am yr MSc gyda Diwydiant isod.

Oeddech chi'n gwybod? Rydym yn:

  • Yn safle 131 yn y Byd ar gyfer Peirianneg – Mecanyddol, Awyryddol a Gweithgynhyrchu (QS World University Rankings 2025)
  • Amgylchedd 100% sy'n arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Mae Peirianneg Sifil yn Abertawe yn ganolfan allweddol ar gyfer ymchwil a hyfforddiant mewn mecaneg gyfrifiadol a pheirianneg. Rydym wedi arloesi gyda llawer o dechnegau a ddefnyddir mewn meddalwedd efelychu masnachol heddiw.

Pam Peirianneg Cyfrifiadol yn Abertawe?

Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad sy'n arwain y byd o ran Peirianneg Gyfrifiadol ers y 1960au, pan ymunodd yr Athro Zienkiewicz â Phrifysgol Abertawe. Mae'r Athro Zienkiewicz yn adnabyddus yn fyd-eang fel "Tad y Dull Elfen Feidraidd" a sefydlodd yr International Journal of Numerical Methods in Engineering a Chymdeithas y DU ar gyfer Mecaneg Gyfrifiadol. Ers hynny, mae Prifysgol Abertawe wedi cynnal safle rhyngwladol breintiedig ym maes Peirianneg Gyfrifiadol.

Mae'r MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol gyda Diwydiant yn cael ei gynghori gan y Pwyllgor Llywio Diwydiannol, sydd yn cynnwys arbenigwyr diwydiannol mewn peirianneg gyfrifiadol o Rolls Royce, Altair, Siemens, Hexagon, ITI Limited, Rockfield, Peritus a Pebble Engineering. 

Addysgir y cwrs MSc Peirianneg Gyfrifiadol gan academyddion sydd gyda'r goreuon yn y byd o Sefydliad Zienkiewicz ar gyfer Modelu, Data a Deallusrwydd Artiffisial ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gan yr academyddion hyn brofiad eang o greu dulliau rhifiadol newydd a darparu offer cyfrifiadol sydd wedi'u mabwysiadu gan fyd diwydiant, gan gynnwys Airbus, BAE Systems, Chevron, NASA, SEAT, Siemens, Volkswagen. 

Yn ogystal â hynny, mae'r academyddion hyn wedi ysgrifennu llyfrau enwog ym maes Peirianneg Gyfrifiadol, ac mae ganddynt rolau pwysig mewn cymdeithasau cenedlaethol a rhyngwladol yn y maes.

Bydd myfyrwyr ar y cwrs MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol yn gallu dewis pwnc eu traethawd hir ymhlith ystod eang o themâu. Bydd gan fyfyrwyr fynediad am ddim at yr holl feddalwedd sydd ei hangen i ymgymryd â'u hastudiaethau, ar gyfrifiaduron y Brifysgol ac yn eu cartrefi. Ar gyfer eu traethawd hir bydd ganddynt hefyd fynediad at y cyfleusterau cyfrifiadura perfformiad uchel sydd ar gael yn Abertawe, gan gynnwys y Clwstwr Effaith a chyfleusterau Uwchgyfrifiadura Cymru yn Abertawe, sydd â chyfanswm o 4,920 o greiddiau a 47 Tb o gof RAM.

Cyfleoedd Cyflogaeth

Mae ystod eang o gyfleoedd ar gael i raddedigion y cwrs MSc Peirianneg Gyfrifiadol. Bydd cyfle iddynt gael swyddi ym myd diwydiant neu yn y byd academaidd, gan ddibynnu ar eu diddordebau.

O ganlyniad i sgiliau unigryw peiriannydd cyfrifiadol, mae'r cyflog disgwyliedig fel arfer yn uwch na chyflog peiriannydd safonol fel arfer. Er enghraifft, yn y DU, cyflog cyfartalog peiriannydd cyfrifiadol ym mis Tachwedd 2022 oedd £43,000, tra mai £38,000 oedd cyflog cyfartalog peiriannydd . Mae'n werth nodi bod cyflogwyr sy'n chwilio am raddedigion yn defnyddio naill ai "Peiriannydd Cyfrifiadol", "Peiriannydd Modelu" neu "Beiriannydd Efelychu" yn eu disgrifiadau.

Mae cwmnïau sy'n cynnig swyddi i Beirianwyr Cyfrifiadol yn cynnwys rhai o'r brandiau enwocaf ledled y byd, sef Alphabet, Amazon, Apple, Boeing, Chevron, Coca-Cola, ExxonMobil, General Dynamics, HP, IBM, Intel, Meta, Microsoft, Nike, Pfizer, Tesla.

Ar ôl graddio, mae'n well gan rai myfyrwyr ddilyn PhD mewn Peirianneg Gyfrifiadol. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ddilyn graddau PhD mewn nifer o brifysgolion blaenllaw ledled y byd, ac mae llawer o raddedigion Abertawe yn dal swyddi ymchwil neu academaidd mewn prifysgolion a chanolfannau ymchwil a datblygu uchel eu bri.

Modiwlau

Mae blwyddyn gyntaf y radd MSc yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau 10-credyd gorfodol a dewisol ar bynciau sy'n cynnwys dadansoddi hylifol ddatblygedig a phlastigrwydd cyfrifiadurol, yn ogystal ag astudiaeth achos ymchwil 20-credyd.

Byddwch yn treulio eich ail flwyddyn gyfan yn cwblhau prosiect traethawd hir, sydd werth 60 o gredydau.

Modiwlau

1 Blynedd Llawn Amser

Blwyddyn 1 (Lefel 7T)

FHEQ 7 Taught Masters / PGDip / PGCert

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Machine LearningSeptember-January (TB1)20CSCM445
Advanced Computational Methods for EngineersSeptember-January (TB1)10EGIM02
Finite Element Computational AnalysisSeptember-January (TB1)10EG-M23
Advanced Fluid Flow SimulationJanuary-June (TB2)10EGIM06
Socio-Technical EngineeringJanuary-June (TB2)10EG-M190
Modiwlau Opsiynol

Dewiswch Yn union 60 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

Optional rule - Numerical Techniques pathway 
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Continuum MechanicsSeptember-January (TB1)10EGEM03
Dynamics and Earthquake Analysis of StructuresSeptember-January (TB1)10EGIM07
Extended Research Case StudySeptember-June (TB1+2)20EG-M325
Plasticity in Structural and Geotechnical EngineeringJanuary-June (TB2)10EGIM08
OptimisationJanuary-June (TB2)10EG-M07
OR

Dewiswch Yn union 60 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

Optional rule - Big Data and Machine Learning pathway 
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Optimisation TechniquesSeptember-January (TB1)20CSCM072
Data Mining & AnalyticsJanuary-June (TB2)20CSCM435
Research Case Study January-June (TB2)10EG-M192
Simulation Based Product DesignJanuary-June (TB2)10EG-M83

Blwyddyn 2 (Lefel 7D)

FHEQ 7 Taught Masters Dissertation
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
MSc Dissertation - Civil and Computational EngineeringJune-September (TB3)60EG-D04

2 Flynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Blwyddyn 1 (Lefel 7T)

FHEQ 7 Taught Masters / PGDip / PGCert

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Machine LearningSeptember-January (TB1)20CSCM445
Advanced Computational Methods for EngineersSeptember-January (TB1)10EGIM02
MSc Industrial Experience Preparation Academic Year0EG-M194
Finite Element Computational AnalysisSeptember-January (TB1)10EG-M23
Advanced Fluid Flow SimulationJanuary-June (TB2)10EGIM06
Socio-Technical EngineeringJanuary-June (TB2)10EG-M190
Modiwlau Opsiynol

Dewiswch Yn union 60 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

Big Data and Machine Learning Pathway 
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Optimisation TechniquesSeptember-January (TB1)20CSCM072
Data Mining & AnalyticsJanuary-June (TB2)20CSCM435
Research Case Study January-June (TB2)10EG-M192
Simulation Based Product DesignJanuary-June (TB2)10EG-M83
OR

Dewiswch Yn union 60 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

Numerical Techniques 
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Continuum MechanicsSeptember-January (TB1)10EGEM03
Dynamics and Earthquake Analysis of StructuresSeptember-January (TB1)10EGIM07
Extended Research Case StudySeptember-June (TB1+2)20EG-M325
Plasticity in Structural and Geotechnical EngineeringJanuary-June (TB2)10EGIM08
OptimisationJanuary-June (TB2)10EG-M07

Blwyddyn 2 (Lefel 7D)

FHEQ 7 Taught Masters Dissertation
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
MSc Industrial ExperienceAcademic Year60EG-M39
MSc Dissertation - Civil and Computational EngineeringJune-September (TB3)60EG-D04

2 Flynedd Rhan Amser

Mae'n ddrwg gennym - nid oes gennym wybodaeth am fodiwlau ar gyfer y math hwn o gwrs ar hyn o bryd

3 Blynedd Rhan Amser

Mae'n ddrwg gennym - nid oes gennym wybodaeth am fodiwlau ar gyfer y math hwn o gwrs ar hyn o bryd

Gofynion Mynediad

.

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Rydyn ni'n falch o gynnig profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r ymagweddau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, sydd wedi cael eu teilwra'n ofalus i gydweddu ag anghenion penodol eich cwrs. Addysgir ein cyrsiau wyneb yn wyneb, ar y campws, sy’n galluogi chi i ymgysylltu'n llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr. 

Mae sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau, a gweithdai yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb fel arfer, gan ganiatáu i chi weithio a chyflwyno mewn grŵp. Fodd bynnag, mae ein hymagwedd hefyd yn cynnwys defnyddio cymorth ar-lein i ategu ac atgyfnerthu addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol. 

Efallai y bydd dysgu ar-lein yn digwydd yn 'fyw' gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, a fydd yn eich galluogi i ryngweithio â'r darlithydd a'ch cyfoedion ac i ofyn cwestiynau. Mae recordio darlithoedd yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran ail-edrych ar ddeunydd a gwella’ch dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol yn ein hamgylchedd dysgu rhithwir (Canvas), megis fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi astudiaeth hyblyg bellach.

Darpariaeth Gymraeg

Achrediad Corff Proffesiynol

Caiff y cwrs MSc Modelu Cyfrifiadurol mewn Peirianneg ei achredu gan Gyd-fwrdd y Cymedrolwyr (JBM).

Mae Cyd-fwrdd y Cymedrolwyr (JBM) yn cynnwys Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE), Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol (IStructE), Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Thrafnidiaeth (CIHT), a Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd (IHE).

Achredwyd bod gradd MSc Modelu Cyfrifiadurol mewn Peirianneg yn bodloni'r gofynion Dysgu Pellach ar gyfer Peiriannydd Siartredig (CEng) i ymgeiswyr sydd eisoes wedi cael gradd gyntaf israddedig achrededig CEng (Rhannol) BEng (Anrh) neu IEng (Llawn) BEng/BSc (Anrh).

Ewch i www.jbm.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Mae gradd MSc Modelu Cyfrifiadurol mewn Peirianneg wedi cael ei hachredu gan JBM o dan drwydded gan reoleiddiwr y DU, sef y Cyngor Peirianneg.

Mae achrediad yn nod sicrwydd bod y radd yn cyrraedd y safonau a nodir gan y Cyngor Peirianneg yn y ddogfen, UK Standard for Professional Engineering Competence (UK-SPEC). Bydd gradd achrededig yn rhoi o leiaf rhywfaint, os nad yr holl wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnoch er mwyn cofrestru yn y pen draw yn Beiriannydd Corfforedig (IEng) neu'n Beiriannydd Siartredig (CEng). Mae'n well gan rai cyflogwyr recriwtio unigolion o raddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn debygol o gael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol.

Cwrdd â'ch Darlithwyr

Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr o’r radd flaenaf sy’n ymchwilwyr brwd. Mae eu meysydd arbenigedd ymchwil yn cynnwys Ynni a'r Amgylchedd, Peirianneg Gyfrifiadol, Solidau, Strwythurau a Systemau Cypledig, Deunyddiau ac Ymarfer Cynaliadwy a Pheirianneg Trafnidiaeth.

Gweler yr holl staff Peirianneg Sifil yma.

Ffioedd Dysgu

MSc 1 Blynedd Llawn Amser

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2024 £ 11,850 £ 22,250
Medi 2025 £ 12,450 £ 23,350

MSc 2 Flynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2024 £ 10,950 £ 22,250
Medi 2025 £ 11,500 £ 23,350

MSc 2 Flynedd Rhan Amser

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2024 £ 5,950 £ 11,150
Medi 2025 £ 6,250 £ 11,700

MSc 3 Blynedd Rhan Amser

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2024 £ 4,000 £ 7,400
Medi 2025 £ 4,150 £ 7,800

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

Os ydych yn fyfyriwr y DU neu'r UE sy’n dechrau ar radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, efallai y byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am arian gan y Llywodraeth i helpu tuag at gostau eich astudiaethau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau Ôl-raddedig.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Ffioedd y cwrs ail flwyddyn yw £3600 i fyfyrwyr rhyngwladol a £1800 i fyfyrwyr Cartref.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyllid i gefnogi cyfleoedd interniaeth i fyfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Sut i wneud cais

MSc gyda Diwydiant bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno datganiad personol sy’n ateb y ddau gwestiwn canlynol:

 Cwestiwn 1: Beth y gallaf ei gynnig i’r lleoliad diwydiannol?

 Cwestiwn 2: Beth rwyf yn gobeithio ei ennill o’r profiad diwydiannol?

Mae’n rhaid i’ch cais gynnwys yr wybodaeth ganlynol: 

  1. Trawsgrifiad Academaidd (gan gynnwys strwythur y graddau)
  2. Tystiolaeth o wobrau/anrhydeddau academaidd rydych wedi eu hennill am ragori’n academaidd
  3. Datganiad personol sy’n ateb y ddau gwestiwn a nodir uchod
  4. CV
  5. Tystiolaeth o lwyddiannau o ran chwaraeon, profiad gwirfoddol, cymwysterau proffesiynol
  6. Hefyd noder y bydd llythyrau cefnogol yn rhan o’r broses ddewis, a’chcyfrifoldeb chi fydd sicrhau y bydd eich canolwyr enwebedig yn cyflwyno geirdaon erbyn y dyddiad cau.

I gael rhagor o gyngor, ewch i’n tudalennau sut i wneud cais ar gyfer astudio ôl-radd.

Dyddiadau Cau Ymgeisio

Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais.

  • Trosolwg
  • Related Pages
  • Back
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan
  • Diwrnodau Agored
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Ffioedd ac Ariannu
  • Cyrsiau Trosi
  • Sut i Wneud Cais
  • Rhaglenni Ymchwil
  • Llety
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg Awyrofod,Sifil, Drydanol a Mecanyddol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Awyrofod
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Sifil
      • MSc mewn Peirianneg Sifil
      • Peirianneg Gyfrifiadurol, MSc
      • MSc mewn Mecaneg Gyfrifiadurol
      • MSc mewn Arwain a Rheoli Peirianneg
      • MSc mewn Rheoli Adeiladu Diwydiannol
      • MSC mewn Peirianneg Strwythurol
      • MSc mewn Rheoli Peirianneg Gynaliadwy ar gyfer Datblygu Rhyngwladol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Electronig a Thrydanol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Gyffredinol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Fecanyddol
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Biowyddorau, Daearyddiaeth
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Fathemateg a Chyfrifiadureg
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
  • Cyrsiau Ôlraddedig Ysgol Seicoleg
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
  • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol
Ymgeisio

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

Two students walking around campus

Prosbectws ol-raddedig

Prosbectws ol-raddedig

Astudio trwy'r Gymraeg

welsh medium

Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol

Dau fyfyriwr wrth gyfrifiadur
Ymwadiad Rhaglen
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342