Peirianneg Sifil, MSc

Un o’r 201-275 o Brifysgolion Gorau yn y Byd ar gyfer Peirianneg - Sifil

QS World University Rankings 2025

Civil

Trosolwg o'r Cwrs

Mae gan yr adran Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe enw ardderchog ymhell ac agos. Mae'r MSc mewn Peirianneg Sifil yn cynnig dealltwriaeth ddatblygedig a systemataidd, wedi'i chynllunio i'ch paratoi fel peiriannydd sifil credadwy.

Cewch eich hyfforddi ym maes dadansoddi a dylunio peirianneg sifil, yn arbennig ym maes technegau modelu a dadansoddi - meysydd lle mae arbenigwyr Prifysgol Abertawe wedi newid arferion diwydiannol modern yn sylweddol ym maes peirianneg sifil.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi wneud ail flwyddyn ychwanegol ar gyfer Prosiect neu Leoliad Gwaith ym myd diwydiant, gan roi profiad gwaith gwerthfawr i chi a'r cyfle i wella sgiliau technegol a rhyngbersonol.

Mae cymorth ac arweiniad ar gael i helpu i sicrhau eich lleoliad gwaith ond nid yw hyn wedi'i warantu. Ffioedd cwrs yr ail flwyddyn yw £3600 i fyfyrwyr rhyngwladol a £1800 i fyfyrwyr cartref. Gweler rhagor o fanylion am Sut i Gyflwyno Cais am yr MSc gyda Diwydiant isod.

Pam Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gan y gyfadran Peirianneg Sifil yn Abertawe enw da yn rhyngwladol ym maes peirianneg gyfrifiadurol ac am ei hintegreiddio â pheirianneg sifil. Mae hyn yn bennaf am iddi gyflwyno'r dulliau elfen feidraidd.

Mae Peirianneg Sifil yn Abertawe:

  • Un o’r 201-275 o Brifysgolion Gorau yn y Byd ar gyfer Peirianneg - Sifil a Strwythurol (QS World University Rankings 2025)
  • 100% yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Mae Peirianneg Sifil yn Abertawe yn ganolfan allweddol ar gyfer ymchwil a hyfforddiant ym maes mecaneg a pheirianneg gyfrifiadol. Rydym wedi arloesi llawer o dechnegau a ddefnyddir mewn meddalwedd efelychu masnachol heddiw.

Eich profiad ym maes Peirianneg Sifil

Yn ystod y cwrs dwy flynedd, byddwch yn meithrin gwybodaeth fanwl am gysyniadau a thechnegau traddodiadol a modern sy'n galluogi datrysiadau cadarn i broblemau peirianneg sifil.

Bydd meddalwedd a dulliau modelu cyfrifiadurol arloesol yn eich galluogi i feithrin dealltwriaeth lawn o'r ffordd y caiff technoleg ei chymhwyso'n ymarferol ym maes peirianneg sifil. Bydd profiadau o'r fath yn rhoi'r hyder i chi roi strategaethau penodol ar waith mewn cyd-destun diwydiannol 'go iawn'.

Caiff eich astudiaethau eu cyfoethogi gan gymuned ryngwladol o dros 500 o fyfyrwyr ôl-raddedig a 120 o aelodau o staff ymchwil yn y Coleg Peirianneg.

Ceir cymorth astudio pellach drwy fynediad 24 awr i'n llyfrgell ar y safle, labordai cynhwysfawr, rhaglen o ddarlithoedd gwadd drwy gydol y flwyddyn, ac ystafelloedd gwaith penodedig i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Dysgwch ragor am y rhesymau pam dylech chi astudio am radd MSc Peirianneg Sifil yn ein gweminar llawn gwybodaeth.

Cyfleoedd cyflogaeth ym maes Peirianneg Sifil

Graddiodd Hannah Keating o Brifysgol Abertawe gyda gradd MEng mewn Peirianneg Sifil ac ymunodd â Laing O’Rourke fel Peirianydd Safle fel rhan o’u Rhaglen Raddedig.

"...Wnes i ddim cyrraedd lle’r ydw i heddiw heb gefnogaeth fy nheulu, fy ffrindiau, fy narlithwyr a’m hathrawon. Ches i ddim problemau wrth gael mynediad at faes sy’n cynnwys llawer iawn o ddynion ac mae hyn yn bennaf oherwydd yr anogaeth a gefais i gan y bobl sy’n agos ataf. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ymateb yn yr un modd a helpu i ysbrydoli peirianwyr ifanc drwy rannu fy stori."

Mae graddedigion MSc mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe mewn sefyllfa gadarn i fanteisio ar gyfleoedd gwerthfawr. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol.

  • Peiriannydd sifil ymgynghorol
  • Peiriannydd sifil ar gontract
  • Peiriannydd safle
  • Peiriannydd strwythurol
  • Peiriannydd geodechnegol
  • Peiriannydd dŵr
  • Cynllunydd tref
  • Peiriannydd gwasanaethau adeiladu
  • Daearegydd peirianyddol

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol

2.2