Sgip i brif cynnwys
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg Awyrofod,Sifil, Drydanol a Mecanyddol
  5. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Sifil
  6. Industrial Construction Management, MSc
  • Astudio
    • Astudio
      Students studying in Singleton Park campus library

      Dechreuwch eich taith yma

      Astudiwch gyda ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Clirio yn Abertawe
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid i'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Prosbectws Israddedig
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Storïau Myfyrwyr
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
    • Cydweithredwch â ni
      • Datblygu eich prosiectau
      • Manteisio ar wybodaeth ein hymgynghorwyr
      • Cyfleoedd Cyllid YDA
    • Recriwtio ein Doniau
      • Recriwtio ein Myfyrwyr a'n Graddedigion
      • Cwrdd â’n myfyrwyr
      • Hysbysebu eich swyddi gwag
    • Datblygu eich Gweithlu
      • Gweld ein cyrsiau
    • Defnyddio ein Gwasanaethau Masnachol
      • Gofyn am gymorth gyda phrosiect
      • Hysbysebu eich sefydliad
      • Dod yn gyflenwr
    • Llogi ein Cyfleusterau
      • Cael mynediad at ein cyfleusterau ymchwil
      • Cynnal digwyddiad
    • Gweithio gyda ni
      • Ymuno â’n rhwydwaith cydweithredol
      • Cysylltu â’n tîm ymgysylltu â busnesau
      • Cadw mewn cysylltiad
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg Awyrofod,Sifil, Drydanol a Mecanyddol
  5. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Sifil
  6. Industrial Construction Management, MSc

Industrial Construction Management, MSc

Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Dewiswch Llawn Amser neu Ran Amser.

Dewiswch y math o gwrs

Dewiswch y dyddiad dechrau.

  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr
  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr

Dewiswch Llawn Amser neu Ran Amser.

Dewiswch y math o gwrs

Dewiswch y dyddiad dechrau.

  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr
  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr
Cadwch Mewn Cysylltiad

Manylion Allweddol y Cwrs

MSc 1 Blynedd Llawn Amser
Dull Astudio
Dysgu Cyfunol
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
2:2
Lleoliad
Campws Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu
Med 2025 £ 10,500
MSc 2 Flynedd Rhan Amser
Dull Astudio
Dysgu Cyfunol
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
2:2
Lleoliad
Campws Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2025 £ 5,250
MSc 1 Blynedd Llawn Amser
Dull Astudio
Dysgu Cyfunol
Cynnig Nodweddiadol
2:2 - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu
Med 2025 £ 23,100
MSc 2 Flynedd Rhan Amser
Dull Astudio
Dysgu Cyfunol
Cynnig Nodweddiadol
2:2 - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2025 £ 11,550

Cyfuno Arbenigedd Technegol â Sgiliau Rheoli Strategol

Safle adeiladu gyda gweithwyr rheoli ac adeiladu
  • Trosolwg
  • Rhagor
    • Related Pages
    • Back
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan
    • Diwrnodau Agored
    • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
    • Ffioedd ac Ariannu
    • Cyrsiau Trosi
    • Sut i Wneud Cais
    • Rhaglenni Ymchwil
    • Llety
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg Awyrofod,Sifil, Drydanol a Mecanyddol
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Awyrofod
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Sifil
        • MSc mewn Peirianneg Sifil
        • Peirianneg Gyfrifiadurol, MSc
        • MSc mewn Mecaneg Gyfrifiadurol
        • MSc mewn Arwain a Rheoli Peirianneg
        • MSc mewn Rheoli Adeiladu Diwydiannol
        • MSC mewn Peirianneg Strwythurol
        • MSc mewn Rheoli Peirianneg Gynaliadwy ar gyfer Datblygu Rhyngwladol
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Electronig a Thrydanol
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Gyffredinol
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Fecanyddol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Biowyddorau, Daearyddiaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir iechyd a gofal cymdeithasol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Fathemateg a Chyfrifiadureg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
    • Cyrsiau Ôlraddedig Ysgol Seicoleg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
    • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MSc mewn Rheoli Adeiladu Diwydiannol yn rhaglen arloesol a fydd yn datblygu arweinwyr diwydiant y dyfodol drwy gyfuno arbenigedd technegol â sgiliau rheoli strategol. Fe'i cyflwynir ar y cyd gan yr Adran Peirianneg Sifil a'r Ysgol Reolaeth, ac mae'n cynnig cyfuniad unigryw o arbenigedd adeiladu ar safle ac arweinyddiaeth prosiect mewn swyddfa.

Mae'r rhaglen hon yn mynd y tu hwnt i wybodaeth ddamcaniaethol mewn Rheoli Adeiladu, gan bwysleisio sgiliau ymarferol, senarios yn y byd go iawn a phrofiad ymarferol drwy ymgysylltu ag arweinwyr diwydiant.

Caiff ei hardystio gan y Temporary Works Forum (TWF), sefydliad masnach blaenllaw yn y sector adeiladu, ac mae'r rhaglen yn cynnwys darlithoedd a arweinir gan ddiwydiant, astudiaethau achos o'r byd go iawn a phrosiectau ymarferol. Caiff rhan helaeth o'r cwricwlwm ei chyflwyno gan uwch weithwyr proffesiynol o gwmnïau adeiladu blaenllaw'r DU, gan gynnig dealltwriaeth unigryw o arferion y diwydiant sy'n torri tir newydd.

Fel myfyriwr ar y rhaglen hon, byddwch yn cael sylfaen gref mewn dulliau adeiladu, cydlynu gwaith dros dro, a phob agwedd ar reoli prosiectau, gan sicrhau eich bod yn barod ar gyfer byd diwydiant unwaith y byddwch wedi graddio.

Drwy ymgorffori priodoleddau graddedigion, partneriaethau â diwydiant a dysgu rhyngddisgyblaethol, mae'r MSc hon mewn Rheoli Adeiladu'n cynnig profiad addysgol cynhwysfawr a blaengar sy'n gallu rhoi i chi wybodaeth academaidd a chymwyseddau proffesiynol y mae eu hangen i ragori yn y diwydiant adeiladu.

Pam Industrial Construction Management yn Abertawe?

Bydd y rhaglen yn defnyddio arbenigedd staff academaidd yr Adran Peirianneg Sifil yn ogystal â'r Ysgol Reolaeth, a bydd gwaith ymchwil mewn arbenigeddau rheoli'n cyfoethogi'r rhaglen â dealltwriaeth sy'n pontio'r bwlch rhwng ymchwil academaidd ac arferion adeiladu yn y byd go iawn.

Mae'r ymagwedd strwythuredig sy'n cyd-fynd â byd diwydiant yn sicrhau eich bod, fel myfyriwr graddedig, wedi meithrin yr wybodaeth academaidd a’r cymwyseddau ymarferol y mae eu hangen ar gyfer rolau arweinyddiaeth yn y sector adeiladu.

Mae'r Adran Peirianneg Sifil yn Abertawe wedi sefydlu enw da yn rhyngwladol, ac o ganlyniad wedi cyrraedd y safleoedd canlynol:

  • Ymysg y 25 rhaglen orau o’i bath yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2025)
  • Ymysg y 25 rhaglen orau o’i bath yn y DU am Ymchwil (Times Good University Guide 2025)
  • Ymysg y 201-240 o raglenni gorau yn y byd ar gyfer Peirianneg - Sifil a Strwythurol (Tablau Prifysgolion y Byd QS 2024), ac
  • mae 100% o'n gwaith ymchwil o safon fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021)

Caiff eich astudiaethau eu cefnogi gan gymuned ryngwladol o dros 500 o fyfyrwyr ôl-raddedig a 120 o aelodau staff ymchwil yn yr Adran Beirianneg. Ceir cymorth pellach drwy fynediad 24 awr i'n llyfrgell ar y safle, labordai a chyfleusterau cynhwysfawr, rhaglen o ddarlithoedd gwadd drwy gydol y flwyddyn, ac ystafelloedd gwaith penodedig i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Eich Profiad Industrial Construction Management

Mae'r rhaglen hon wedi'i llunio ar sail yr egwyddor bod angen i weithwyr proffesiynol adeiladu effeithiol feddu ar allu rheoli cryf a dealltwriaeth ddofn o weithrediadau peirianneg a safle. Yn wahanol i raglenni traddodiadol sy'n canolbwyntio'n bennaf ar gynllunio prosiectau a rheoli busnes, mae'r radd MSc hon yn cynnwys arweinyddiaeth strategol ac arbenigedd technegol i greu graddedigion cyflawn, wedi'u paratoi’n dda am gymhlethdodau prosiectau adeiladu modern.

Un o bileri allweddol yr athroniaeth hon yw cydweithio â byd diwydiant.  Gyda mewnbwn uniongyrchol gan Temporary Works Forum (TWF) a gweithwyr proffesiynol blaenllaw yn y maes, mae'r rhaglen yn sicrhau y byddwch yn ennill dealltwriaeth dda o heriau adeiladu cyfoes, arferion gorau ac arloesi sy'n dod i'r amlwg. Mae cyfranogi yn y byd go iawn yn gwella cyflogadwyedd ac yn pontio'r bwlch rhwng dysgu academaidd ac anghenion y diwydiant.

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys safbwynt byd-eang, gan gydnabod bod adeiladu'n ddiwydiant rhyngwladol gyda rheoliadau, cyd-destunau diwylliannol a heriau cynaliadwyedd amrywiol. Drwy gyfuno manyldeb academaidd ag astudiaethau achos ymarferol, dysgu ar safle a modiwlau a arweinir gan y diwydiant, mae'r MSc mewn Rheoli Adeiladu Diwydiannol yn datblygu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu addasu, sy'n meddwl yn flaengar ac yn barod i arwain mewn sector sy'n datblygu'n gyflym.

Agwedd allweddol o'r integreiddio hwn yw'r cydweithio cryf â’r diwydiant, yn enwedig gyda’r Temporary Works Forum (TWF) a llawer o gwmnïau adeiladu blaenllaw yn y DU, sy'n cynnig addysgu a arweinir gan y diwydiant ar gyfer tri modiwl peirianneg (60 credyd).   Mae'r bartneriaeth hon yn sicrhau y byddwch yn derbyn hyfforddiant sy'n cyd-fynd yn uniongyrchol ag anghenion y diwydiant, gan ennill profiad yn y byd go iawn a chael dealltwriaeth broffesiynol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Industrial Construction Management

Fel myfyriwr graddedig o'r rhaglen hon, byddwch yn datblygu sgiliau entrepreneuraidd allweddol, gan gynnwys ymwybyddiaeth fasnachol ac o fyd busnes, datrys problemau, arweinyddiaeth, rheoli risg, rhwydweithio ac addasu digidol.

Bydd y sgiliau hyn yn cael eu meithrin drwy fodiwlau a arweinir gan y diwydiant, darlithoedd gwadd, ymweliadau â safleoedd a phrosiectau cydweithredol, gan eich paratoi ar gyfer rolau arweinyddiaeth neu fentrau entrepreneuraidd yn y sector adeiladu.

Bydd galw mawr am raddedigion ar gyfer rolau blaenllaw mewn amrywiaeth o arbenigeddau cysylltiedig, megis:

Rheoli Adeiladu a Rheoli Prosiectau

  • Rheolwr Prosiectau Adeiladu
  • Rheolwr Safle
  • Rheolwr Contractau

Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Dechnegol

  • Peiriannydd Adeiladu
  • Cydlynydd Gwaith Dros Dro
  • Arbenigwr BIM (Modelu Gwybodaeth am Adeiladau)

Rolau Masnachol ac Ariannol

  • Syrfëwr Meintiau
  • Peiriannydd Costau
  • Rheolwr Caffael

Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd

  • Rheolwr Iechyd a Diogelwch
  • Ymgynghorydd Cynaliadwyedd
  • Arbenigwr Rheoli Risg

Os ydych newydd raddio neu'n weithiwr proffesiynol yn y diwydiant, mae'r MSc hon yn pontio'r bwlch rhwng arbenigedd technegol a rhagoriaeth reoli, gan ei gwneud yn llwybr perffaith i gael gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant.

Modiwlau

Dyma strwythur y rhaglen:

  • Tymor 1 (Medi – Rhagfyr): Dau fodiwl peirianneg (Dulliau Adeiladu a Chydlynu Gwaith Dros Dro, Dulliau Adeiladu mewn Gwaith Adeiladu) ac un modiwl rheoli (Rheoli Prosiect), pob un yn werth 20 credyd.
  • Tymor 2 (Chwefror – Mai): Dau fodiwl rheoli (Rheoli Prosiectau Uwch, Rheoli Strategol ar gyfer Adeiladu) ac un modiwl peirianneg (Dulliau Adeiladu mewn Gwaith Isadeiledd) pob un yn werth 20 credyd.
  • Tymor 3 (Mehefin – Medi): Bydd myfyrwyr yn cwblhau prosiect grŵp a ddiffinnir gan y diwydiant, sy'n werth 60 credyd.

Modiwlau

Blwyddyn 1 (Lefel 7T)

FHEQ 7 Taught Masters / PGDip / PGCert
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Construction Methods & Temporary Works CoordinationSeptember-January (TB1)20EG-M346
Construction Methods in Building WorksSeptember-January (TB1)20EG-M347
Leading and Managing ProjectsSeptember-January (TB1)20MN-M074
Construction Methods in Infrastructure WorksJanuary-June (TB2)20EG-M345
Strategic Management for Projects January-June (TB2)20MN-M616
Financial Management for ProjectsJanuary-June (TB2)20MN-M617

Blwyddyn 2 (Lefel 7D)

FHEQ 7 Taught Masters Dissertation
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Group Project - Industrial Construction Management June-September (TB3)60EG-M348

2 Flynedd Rhan Amser

Mae'n ddrwg gennym - nid oes gennym wybodaeth am fodiwlau ar gyfer y math hwn o gwrs ar hyn o bryd

Gofynion Mynediad

Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd: gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.

Dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster BSc neu BEng 2:2 neu'n uwch (neu gyfwerth) mewn Peirianneg Sifil neu bwnc cysylltiedig agos. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o reoli ar gyfer y cwrs hwn.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr o bedwar ban byd a gofynnwn am dystiolaeth o astudio blaenorol cyfwerth â'r gofynion mynediad a nodir uchod. Mae'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr Ôl-raddedig yn hapus i’ch cynghori ynghylch addasrwydd eich cymwysterau ar gyfer mynediad i’r cwrs yr hoffech ei astudio. E-bostiwch postgraduate.admissions@abertawe.ac.ukam ragor o wybodaeth.

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, bydd angen i chi ennill cymhwyster Iaith Saesneg cymeradwy ar lefel dderbyniol er mwyn sicrhau eich bod yn manteisio'n llawn ar y cyfle i astudio yn Abertawe. Rydym yn ystyried ystod eang o gymwysterau, gan gynnwys Prawf Saesneg Prifysgol Abertawe, prawf IELTS y British Council (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ac o leiaf 5.5 ym mhob elfen). Mae rhestr lawn o brofion Iaith Saesneg derbyniol ar gael yn: https://www.swansea.ac.uk/cy/astudio/derbyn-myfyrwyr/gofynion-iaith-saesneg

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Bwriad y rhaglen yw rhoi cyfuniad cynhwysfawr i chi o wybodaeth dechnegol, arbenigedd rheoli a phrofiad o’r diwydiant.

Mae ein prif ddulliau dysgu ac addysgu'n cynnwys:

  • Darlithoedd mawr:Cysyniadau damcaniaethol craidd a gyflwynir i'r holl fyfyrwyr
  • Seminarau a thiwtorialau mewn grwpiau bach:Trafodaethau rhyngweithiol a datrys problemau
  • Labordai cyfrifiaduron: Hyfforddiant ymarferol gyda meddalwedd safonol y diwydiant
  • Gweithdai ymarferol ac ymweliadau safle:Profiad o'r byd adeiladu go iawn
  • Sesiynau a arweinir gan ddiwydiant:Cyflwynir gan weithwyr proffesiynol TWF a darlithwyr gwadd
  • Gwaith grŵp/cyflwyniadau: Annog gweithio mewn tîm a sgiliau cyfathrebu

Caiff rhan sylweddol o'r gwaith addysgu ei chyflwyno drwy ddarlithoedd a seminarau, a gefnogir gan ddarlithoedd gwadd gan weithwyr proffesiynol o’r diwydiant. Bydd elfen ymarferol y cwrs yn cael ei hwyluso drwy weithdai ymarferol ac ymweliadau â safleoedd diwydiant i roi profiad i chi o'r gweithle. 

Gall eich dysgu gael ei asesu drwy'r dulliau canlynol: gwaith cwrs, adroddiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar i asesu eich ymwybyddiaeth feirniadol o egwyddorion rheoli adeiladu; arholiadau traddodiadol a phrosiectau ymarferol sy'n asesu eich dealltwriaeth o ddamcaniaethau allweddol a’ch gallu i’w cymhwyso; adroddiadau a chyflwyniadau myfyriol i asesu rhesymu dadansoddol a gwneud penderfyniadau; ymarferion efelychu a hyfforddiant meddalwedd technegol i gynorthwyo cymhwyso dysgu yn y byd go iawn; prosiectau grŵp ac ymarferion arweinyddiaeth i ddatblygu gwaith tîm a sgiliau gwneud penderfyniadau, a phrosiectau ymchwil hunangyfeiriedig sy'n hyrwyddo cyfranogiad dyfnach yn y maes pwnc.

Bydd sesiynau datblygu sgiliau ymarferol ac addysgu wyneb yn wyneb yn cael eu cefnogi gan Canvas, a fydd yn brif blatfform e-ddysgu ar gyfer y rhaglen, gan roi mynediad at ddeunyddiau darlithoedd, aseiniadau, fforymau trafod a chyhoeddiadau.

Darpariaeth Gymraeg

Cwrdd â'ch Darlithwyr

Bydd yr aelodau staff canlynol o'r Adran Peirianneg Sifil a'r Ysgol Reolaeth yn rhan o gydlynu a/neu gyflwyno modiwlau yn y rhaglen:

  • Bydd Yr Athro Yuntian Feng, sydd â thros 30 mlynedd o brofiad addysgu mewn Peirianneg Sifil, yn cydlynu'r rhaglen, y prosiect grŵp a'r modiwl ‘Dulliau Adeiladu mewn Gwaith Adeiladu’.
  • ByddYr Athro Chenfeng Li, cyfarwyddwr anweithredol TWF, ac arbenigwr o fri yn y diwydiant adeiladu, yn cydlynu'r modiwl Dulliau Adeiladu a Chydlynu Gwaith Dros Dro'.
  • Bydd Yr Athro Ed deSouza Nato, Pennaeth yr Adran Peirianneg Sifil, yn cydlynu'r modiwl ‘Dulliau Adeiladu mewn Gwaith Isadeiledd’.
  • Dr Dafydd Cotterell, Dirprwy Gyfarwyddwr y rhaglen BSc (Anrh) Rheoli Busnes sydd ag arbenigedd ym maes gwydnwch sefydliadol. Mae Dafydd yn darlithio'n bennaf ym maes Rheoli Prosiect a Rheoli Argyfwng/Risg.
  • Mr David Bolton, Athro Cysylltiol a Chyfarwyddwr y Rhaglen Rheoli Busnes Israddedig, gan ddarlithio mewn Entrepreneuriaeth a Rheoli Prosiectau. Mae gan David dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant gan arbenigo mewn Gwerthiannau, Marchnata a Datblygu Busnes, a rhoi cymorth economaidd a busnes i Lywodraeth Cymru.
  • Yr Athro Andrew Thomas, Deon yr Ysgol Reolaeth ac Athro Rheoli Peirianneg. Mae prif ddiddordebau ymchwil Andrew yn cynnwys peirianneg fforensig, rheoli cynnal a chadw, rheoli peirianneg, strategaeth gweithgynhyrchu a rheoli gweithrediadau. Yn ystod ei yrfa ddiwydiannol, bu ganddo rolau mewn peirianneg awyrofod, gweithgynhyrchu a chynhyrchu.Mae Andrew yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac yn Beiriannydd Siartredig.

Yn ogystal, bydd tua 15 arbenigwr o fyd diwydiant yn cyflwyno darlithoedd mewn tri modiwl technegol ac yn goruchwylio’r prosiectau grŵp.

Ffioedd Dysgu

MSc 1 Blynedd Llawn Amser

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2025 £ 10,500 £ 23,100

MSc 2 Flynedd Rhan Amser

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2025 £ 5,250 £ 11,550

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

Os ydych yn fyfyriwr y DU neu'r UE sy’n dechrau ar radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, efallai y byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am arian gan y Llywodraeth i helpu tuag at gostau eich astudiaethau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau Ôl-raddedig.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyllid i gefnogi cyfleoedd interniaeth i fyfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Sut i wneud cais

Dylech wneud cais drwy system ymgeisio fewnol.

I gael rhagor o gyngor, ewch i’n tudalennau sut i wneud cais ar gyfer astudio ôl-radd.

Dyddiadau Cau Ymgeisio

Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais.

Gwybodaeth Ychwanegol

Manylion Cyswllt

Cyflwyno ymholiad Ôl-raddedig

Dylai myfyrwyr rhyngwladol gysylltu â'n Tîm Rhyngwladol

  • Trosolwg
  • Related Pages
  • Back
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan
  • Diwrnodau Agored
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Ffioedd ac Ariannu
  • Cyrsiau Trosi
  • Sut i Wneud Cais
  • Rhaglenni Ymchwil
  • Llety
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg Awyrofod,Sifil, Drydanol a Mecanyddol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Awyrofod
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Sifil
      • MSc mewn Peirianneg Sifil
      • Peirianneg Gyfrifiadurol, MSc
      • MSc mewn Mecaneg Gyfrifiadurol
      • MSc mewn Arwain a Rheoli Peirianneg
      • MSc mewn Rheoli Adeiladu Diwydiannol
      • MSC mewn Peirianneg Strwythurol
      • MSc mewn Rheoli Peirianneg Gynaliadwy ar gyfer Datblygu Rhyngwladol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Electronig a Thrydanol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Gyffredinol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Fecanyddol
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Biowyddorau, Daearyddiaeth
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Fathemateg a Chyfrifiadureg
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
  • Cyrsiau Ôlraddedig Ysgol Seicoleg
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
  • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol
Ymgeisio

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

Two students walking around campus

Prosbectws ol-raddedig

Prosbectws ol-raddedig

Astudio trwy'r Gymraeg

welsh medium

Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol

Dau fyfyriwr wrth gyfrifiadur
Ymwadiad Rhaglen
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342