Peirianneg Electronig a Thrydanol, MSc

100% yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Student working in the electronics lab

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r cwrs MSc Peirianneg Electronig a Thrydanol yn eich galluogi i fireinio sgiliau arbenigol ochr yn ochr â diddordebau ymchwil arloesol yn y Coleg Peirianneg. Bydd eich dysgu yn adlewyrchu gofynion modern y diwydiant electroneg.

Mae'r cwrs, sydd wedi'i achredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET), yn rhoi'r gallu i chi gynllunio a gweithredu rhaglen waith gymhleth yn effeithiol, a chymhwyso gwybodaeth arbenigol mewn diwydiant.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi wneud ail flwyddyn ychwanegol ar gyfer Prosiect neu Leoliad Gwaith ym myd diwydiant, gan roi profiad gwaith gwerthfawr i chi a'r cyfle i wella sgiliau technegol a rhyngbersonol.

Mae cymorth ac arweiniad ar gael i helpu i sicrhau eich lleoliad gwaith ond nid yw hyn wedi'i warantu. Ffioedd cwrs yr ail flwyddyn yw £3600 i fyfyrwyr rhyngwladol a £1800 i fyfyrwyr cartref. Gweler rhagor o fanylion am Sut i Gyflwyno Cais am yr MSc gyda Diwydiant isod.

Pam dewis Peirianneg Electroneg a Thrydanol ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae Peirianneg Electronig a Thrydanol Abertawe yn gartref i arbenigwyr ymchwil o fri byd-eang mewn electroneg pŵer, telathrebu, nanodechnoleg a biometreg.

A wyddoch chi?

  • Un o’r 301-350 o Brifysgolion Gorau yn y Byd ar gyfer Peirianneg - Drydanol ac Electronig (QS World University Rankings 2025)
  • 100% yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Eich profiad Perianneg Electronig a Thrydanol

Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu sgiliau gydag offer o safon y diwydiant, fel microsgop twnelu sganio ar gyfer chwilio'r raddfa atomig, a'r dadansoddwr paramedr hp4124 ar gyfer dyfeisiau pŵer.

Cewch gyfle i feithrin dealltwriaeth o brototeipio a dulliau a chydrannau cynhyrchu, wrth ddysgu sut i lunio a gwerthuso modelau uwch o dechnegau gweithgynhyrchu.

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu gwahaniaethu, dadansoddi a thrafod atebion rheoli oes cynnyrch yn hyderus, a sut maent yn effeithio ar sectorau diwydiant penodol.

Bydd eich astudiaethau yn cael eu meithrin gan gymuned ryngwladol o dros 500 o fyfyrwyr ôl-raddedig a 120 o staff ymchwil yn y Coleg Peirianneg.

Daw cymorth astudio pellach ar ffurf mynediad 24 awr i'n llyfrgell ar y safle, ein labordai uwch, rhaglen o ddarlithoedd gwadd drwy gydol y flwyddyn, ac ystafelloedd gwaith ôl-raddedig pwrpasol.

Cyfleoedd Gyrfaoedd Peirianneg Electroneg a Thrydanol

Mae graddedigion MSc Peirianneg Electronig a Thrydanol mewn sefyllfa dda am gyfleoedd cyflogaeth.

Gall eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Peiriannydd Darlledu
  • Peiriannydd rheoli ac offeryniaeth
  • Peiriannydd Trydanol
  • Ymgynghorydd TG
  • Peiriannydd rhwydwaith
  • Dadansoddwr systemau
  • Rhaglennydd amlgyfrwng
  • Awdur technegol
  • Peiriannydd gwerthu technegol

Modiwlau

Mae blwyddyn gyntaf yr MSc yn cynnig detholiad o fodiwlau gorfodol a dewisol 10-credyd ar bynciau gan gynnwys dyfeisiau lled-ddargludyddion pŵer, systemau pŵer uwch, cyfathrebiadau ffibr optegol a strwythurau a dyfeisiau nanoscale.

Mae eich ail flwyddyn yn gwbl ymroddedig i brosiect traethawd hir, gwerth 60 credyd.

Mae'r modiwlau yn y tabl isod ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ym mis Ionawr 2024. Ar gyfer modiwlau a fydd yn dechrau ym mis Ionawr 2025, gweler y MSc Engineering - January 2025 (CY).