Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r rhaglen hon yn un o ddau gwrs Prifysgol Abertawe sydd ymhlith y cymwysterau ôl-raddedig cyntaf i gael achrediad gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.
Mae’r cwrs MSc mewn Gwybodaeth Ddaearyddol a Newid yn yr Hinsawdd yn darparu hyfforddiant trawsddisgyblaethol yn sail wyddonol Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, Synhwyro o Bell drwy Loeren a Modelu Systemau’r Ddaear ochr yn ochr ag agweddau ar Newid yn yr Hinsawdd.
Mae’r cwrs yn rhoi pwyslais penodol ar agweddau technegol Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol ac Arsylwi’r Ddaear yn ogystal â newid amgylcheddol a hinsoddol byd-eang a rhanbarthol y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Erbyn i chi raddio, bydd gennych chi brofiad ymarferol a gwybodaeth dechnegol mewn Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a synhwyro o bell, a gefnogir gan wybodaeth eang o faterion gwyddonol sy'n sail i newid yn yr hinsawdd.
Mae'ch dysgu'n cael ei atgyfnerthu gan arbenigedd ymchwil cyfyngedig ym meysydd Daearyddiaeth a'r Biowyddorau ein staff o ran gwybodaeth ddaearyddol, dynameg amgylcheddol a hinsoddol a datblygu cynaliadwy.