Classics and Ancient History, MA

Defnyddio'r Gorffennol i Lywio eich Dyfodol

Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn Messene Odeon

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MA yn y Clasuron a Hanes yr Henfyd yn gwrs dynamig a arweinir gan ymchwil sy’n cynnig modiwlau ar ddiwylliannau, hanesion a llenyddiaethau hen Roeg, y byd Rhufeinig, y Lefant a'r Dwyrain Canol, gan fanteisio ar arbenigedd ysgolheigion a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Mae'r rhaglen hefyd yn eich galluogi i archwilio faint o agweddau ar y byd modern sydd â'u gwreiddiau yn ieithoedd, llenyddiaethau, hanesion a diwylliannau'r byd Clasurol.

Drwy gydol eich astudiaethau, cewch eich annog i feithrin ymwybyddiaeth fethodolegol wrth i chi gael cyflwyniad i gysyniadau a thechnegau dehongli allweddol sydd wedi llunio astudio gwareiddiadau hynafol.

Byddwch yn mireinio'r sgiliau ymchwil arbenigol sy'n ofynnol i wneud gwaith ar lefel uchel mewn amrywiaeth o feysydd sy'n gysylltiedig â phynciau'r Clasuron a Hanes yr Henfyd.

Pam y Clasuron a Hanes yr Henfyd ym Mhrifysgol Abertawe?

Byddwch yn astudio ar ein campws Parc Singleton trawiadol, sy'n edrych dros Fae Abertawe ar drothwy penrhyn Gŵyr.

Addysgir y rhaglen yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, cartref Canolfan y Graddedigion sydd â'r nod o hyrwyddo gweithgarwch ymchwil unigol a chydweithredol o safon ryngwladol, gan ddarparu amgylchedd cefnogol i fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag ymchwil ôl-raddedig ac astudiaethau meistr a addysgir.

Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant ôl-raddedig i ehangu datblygiad academaidd a phroffesiynol ac yn hwyluso rhaglenni seminar, gweithdai a chynadleddau rhyngwladol drwy ein canolfannau ymchwil: OLCAP (y Grŵp Ymchwil ar gyfer Ymagweddau at y Gorffennol sy'n Seiliedig ar Wrthrychau a Thirwedd), KYKNOS (y Ganolfan ar gyfer Ymchwil i Lenyddiaethau Naratif yr Henfyd), a'n hamgueddfa arobryn ar y campws, y Ganolfan Eifftaidd, sy'n gartref i dros 5,000 o arteffactau Eifftaidd.

Byddwch yn ymuno ag adran flaenllaw, sy’n adnabyddus am ei hymchwil a’i harbenigedd:

  • Mae Clasuron a Hanes yr Henfyd yn Abertawe yn un o'r 51-150 o raglenni gorau o'i bath (Tablau Prifysgolion y Byd QS Fesul Pwnc 2025)
  • Dyfarnwyd bod 100% o effaith ymchwil y Clasuron yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021).

Eich Profiad yn y Clasuron a Hanes yr Henfyd

Cynlluniwyd y rhaglen hon i gynnig hyblygrwydd i'ch galluogi i ddewis modiwlau sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau personol a'ch nodau ar gyfer y dyfodol. Mae llwybrau'r modiwlau yn adlewyrchu'r is-ganghennau disgyblaethol sy'n ffurfio’r byd Clasurol yn ôl confensiwn.

Os oes gennych ddiddordebau llenyddol byddwch yn gallu astudio modiwlau megis ‘Creations of Egypt in the Greco-Roman World’, ‘Ancient Narrative Literature’, a ‘Saints and Sinners in Christian Late Antiquity’. Byddwch hefyd yn gallu astudio ieithoedd hynafol fel rhan o'r rhaglen.

Os oes gennych ddiddordebau hanesyddol neu faterol byddwch yn gallu astudio modiwlau megis: ‘Heritage, Law and Conflict’, ‘Creations of Egypt in the Greco-Roman World’, ac ‘Ancient Landscapes’. Cewch gyfle hefyd i astudio ieithoedd hynafol fel rhan o'r rhaglen.

Mae'r modiwlau'n sy’n cael eu cynnig yn adlewyrchu amrywiaeth o ymagweddau at astudio'r henfyd a'i dreftadaeth. Drwy'r modiwlau dewisol hyn, yn ogystal â modiwlau ar fethodolegau ymchwil a pharatoi ar gyfer prosiect ymchwil uwch, byddwch yn datblygu sgiliau sy'n eich paratoi i ysgrifennu traethawd hir dan gyfarwyddyd goruchwyliwr arbenigol.

Caiff strwythur y cwrs amser llawn ei rannu ar draws y flwyddyn, gan gynnig tri modiwl ym mhob semester academaidd, a thraethawd hir i'w gwblhau dros yr haf.

Os ydych chi'n dewis astudio'r cwrs rhan-amser, byddwch fel arfer yn astudio un modiwl gorfodol a dau fodiwl dewisol yn y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn, gan gwblhau traethawd hir yn ystod haf yr ail flwyddyn hefyd.

Bydd eich adnoddau astudio'n cynnwys prif lyfrgell sydd â chasgliad arbennig o dda o ffynonellau llenyddol a dogfennol o'r henfyd, cyhoeddiadau archeolegol, epigraffig a phapurolegol, ynghyd ag ysgolheictod modern. Mae casgliadau'r llyfrgell yn cynnwys amrywiaeth eang o gyfnodolion cyffredinol ac arbenigol a nifer cynyddol o adnoddau digidol arbenigol.

Byddwch hefyd yn gallu defnyddio'r casgliadau a'r adnoddau yn y Ganolfan Eifftaidd ar y campws, gan elwa o fod yn rhan weithredol o'r gymuned ffyniannus a chefnogol yn y Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg a geir yn yr Adran Hanes, Treftadaeth a'r Clasuron.

Cyfleoedd Cyflogaeth yn y Clasuron a Hanes yr Henfyd

Byddwch yn meithrin sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu ardderchog ac yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau mewn amrywiaeth o fformatau. Bydd sgiliau ymchwil, dadansoddi a datrys problemau cryf i gyd yn rhoi hwb i’ch rhagolygon cyflogaeth.

Mae graddedigion y cwrs hwn yn gweithio mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys:

  • Addysg, amgueddfeydd a threftadaeth, llyfrgelloedd ac archifau, newyddiaduraeth a'r cyfryngau, marchnata a busnes, a llywodraeth a'r gwasanaeth sifil.

Modiwlau

Byddwch yn astudio cyfanswm o 180 o gredydau, sy'n cynnwys chwe modiwl 20 credyd, cyn ymgymryd â thraethawd hir gwerth 60 o gredydau, y manylir arno isod.