Cyfathrebu ym myd Chwaraeon a Newyddiaduraeth, MA

MA Cyfathrebu a Newyddiaduraeth Chwaraeon

arwr

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MA mewn Cyfathrebu a Newyddiaduraeth Chwaraeon yn cynnig i chi gwricwlwm trylwyr sy'n cyfuno ymagweddau ymarferol a damcaniaethol at gyfathrebu, newyddiaduraeth a chysylltiadau cyhoeddus proffesiynol cyfoes ym myd chwaraeon.

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i roi i chi'r sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer gyrfa fel cyfathrebwr chwaraeon proffesiynol. Drwy gydol y rhaglen, bydd gennych gyfle i ddatblygu'r gallu i nodi straeon gafaelgar, llunio naratifau diddorol a chyfoethogi'r rhain gan ddefnyddio elfennau amlgyfrwng megis fideograffeg a lluniau llonydd, cyn meithrin y sgiliau i ddenu defnyddwyr i'r cynnwys.

Drwy brofiad ymarferol ym meysydd ffilmio, golygu a chreu cynnwys, a gwybodaeth estynedig am dechnegau hyrwyddo, byddwch yn gallu meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o sut i rhannu cynnwys yn effeithiol â chefnogwyr chwaraeon presennol ac â darpar gynulleidfa.

Mae'r cwrs yn eich galluogi ymhellach i ddatblygu set amrywiol o sgiliau y mae galw mawr amdanynt ym meysydd proffesiynol cyfathrebu, newyddiaduraeth a'r cyfryngau digidol. Bydd y cymwyseddau hyn i gyd yn eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn amrywiaeth o sectorau ym myd chwaraeon, gan gynnwys newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, darlledu, hysbysebu a marchnata. Yn ogystal, cewch gyfle i ddatblygu portffolio gwaith cadarn, gan arddangos eich galluoedd i ddarpar gyflogwyr yn y diwydiannau dynamig hyn.

Os ydych chi eisoes yn weithiwr proffesiynol yn y diwydiant, mae'r cwrs hwn yn cynnig sgiliau a chymwysterau dynamig yn y cyfryngau newydd i roi hwb i'ch datblygiad proffesiynol parhaus.

Pam Cyfathrebu ym myd Chwaraeon a Newyddiaduraeth yn Abertawe?

Mae Prifysgol Abertawe'n elwa o Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu flaenllaw sy'n ymddangos yn gyson ymysg y deg adran orau mewn tablau cynghrair cenedlaethol yn y DU. Cewch eich addysgu gan arbenigwyr sydd â dealltwriaeth helaeth o'r cyfryngau a diwydiannau cysylltiedig.

Gyda mwy na 60 o dimau chwaraeon a chyfleusterau ardderchog ar ein dau gampws, gallwn gynnig i chi bopeth y bydd ei angen arnoch chi i fyw bywyd iach ac actif, gan eich galluogi i ymgolli ym myd chwaraeon. Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe, sydd wrth ymyl Campws Parc Singleton, yn cynnwys pwll cenedlaethol 50m, trac athletau, caeau chwarae, campfa a llawer mwy, ac mae gan Gampws y Bae nifer o gyrtiau chwaraeon, neuadd chwaraeon a champfa. Cynhelir dosbarthiadau ffitrwydd rheolaidd ar y ddau gampws ac mae staff ymroddedig wrth law i'ch helpu gyda'ch anghenion hyfforddi.

Yn 2018, dyfarnwyd Statws Achrededig gyda Chynllun Ysgoloriaethau i Athletwyr Dawnus (TASS) Sports England i Brifysgol Abertawe, sy'n golygu mai ni yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei hachredu. Ar ben hyn, rydym yn cynnig rhaglen ysgoloriaethau chwaraeon mwy cyffredinol sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig ac israddedig, gan amlygu ein hymrwymiad i chwaraeon lefel uchel a'n cysylltiadau â'r maes.

Eich Profiad Cyfathrebu ym myd Chwaraeon a Newyddiaduraeth

Byddwch yn astudio ar ein campws Parc Singleton godidog, â golygfeydd dros Fae Abertawe ar drothwy penrhyn Gŵyr.

Byddwch yn dechrau eich cwrs drwy astudio tri modiwl sy'n werth 20 credyd ym mhob semester academaidd (chwe modiwl yn ystod rhan un).  Bydd y rhain yn ymdrin yn fanwl ag elfennau allweddol cyfathrebu a newyddiaduraeth chwaraeon, gan fireinio eich sgiliau a'ch gwybodaeth yn y meysydd hyn.

Yn debyg i unrhyw raglen lefel Meistr, prif elfen y cwrs hwn yw'r prosiect sylweddol olaf, neu draethawd hir, sy'n werth 60 credyd, gan eich galluogi i ddatblygu eich arbenigedd mewn maes diddordeb penodol.

Yn ystod rhan dau o'r cwrs, gallwch naill ai:

  • Gynnal ymchwil ac ysgrifennu traethawd hir 16,000 o eiriau am bwnc arbenigol a ddewisir ar y cyd rhyngoch chi a'ch goruchwyliwr
  • Cynnal ymchwil annibynnol a pharatoi ymgyrch hyrwyddo, gan ysgrifennu dogfen ymgyrch gyflawn a chymryd rhan mewn lleoliad gwaith byr hefyd, neu
  • Greu Portffolio Newyddiaduraeth Chwaraeon, gan greu sawl darn o newyddiaduraeth am thema chwaraeon ganolog, gan gynnwys eitemau aml-gyfrwng, a chwblhau lleoliad gwaith byr hefyd.

Mae'n bwysig eich bod yn ystyried eich opsiynau'n ofalus cyn dechrau eich cwrs. Byddai’n ddefnyddiol hefyd pe bai gennych syniad cyffredinol o'r agwedd ar gyfathrebu, y cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus neu ymarfer creadigol sydd o diddordeb mwyaf i chi. Bydd hyn yn sicrhau bod gennych fan cychwyn da i fireinio eich traethawd hir neu eich prosiect gyda chymorth eich goruchwyliwr, fel bod y cwrs yn eich helpu cymaint â phosib i gyflawni eich uchelgeisiau.

Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i'ch paratoi ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol. Gallwn wneud hyn drwy ddefnyddio ein cysylltiadau â byd diwydiant, a thrwy'r pwyslais rydym yn ei roi ar ddarparu i chi'r sgiliau rhyngbersonol penodol a nodwyd gan ein panel diwydiant fel rhai sy'n allweddol yn eu prosesau recriwtio.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cyfathrebu ym myd Chwaraeon a Newyddiaduraeth

Mae cysylltiadau agos yr Adran ag amrywiaeth o sefydliadau'r cyfryngau a chyfathrebu yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd profiad gwaith ac interniaethau ar bob lefel astudio i chi. Rydym yn cael ceisiadau rheolaidd gan sefydliadau lleol sy'n cynnig lleoliadau gwaith â thâl a rhai gwirfoddol, i ddiwallu angen cyflogwyr am fyfyrwyr medrus i lenwi rolau cyfathrebu tymor byr.

Yn ogystal, gall interniaethau gynnig cyfle i chi roi’r ddamcaniaeth a astudiwyd mewn darlithoedd ar waith yn y byd go iawn. Bydd cyfleoedd gwerthfawr hefyd i rwydweithio â gweithwyr proffesiynol, mentoriaid a darpar gydweithwyr yn y dyfodol, a meithrin cysylltiadau sy’n gallu arwain at gynigion neu argymhellion am swyddi amser llawn i’n graddedigion. Mae’r ymagwedd ragweithiol hon at gyflogadwyedd yn helpu i sicrhau bod ein graddedigion yn gallu datblygu CV sy’n creu argraff dda, yn barod ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol.

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus yn y meysydd canlynol:

  • Newyddiaduraeth
  • Y Cyfryngau
  • Busnes
  • Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata
  • Marchnata Digidol
  • Teledu a Radio
  • Cyhoeddi

Yn ogystal â datblygu sgiliau cyfathrebu proffesiynol ardderchog, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan wella eich gallu i weithio gyda'r cyfryngau digidol, a dysgu i gyflwyno syniadau mewn amrywiaeth o fformatau, cewch gyfleoedd hefyd i gael profiad gwaith gyda sefydliadau chwaraeon mawr, gan gynnwys Clwb Pêl-droed Abertawe, y Gweilch a'r Scarlets.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol

2.2