Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein rhaglen MA Newyddiaduraeth Ryngwladol yn cynnig cymysgedd deinamig o theori feirniadol uwch a phrofiad ymarferol, gan roi'r offer i chi ddadansoddi, creu ac arloesi ar draws amrywiaeth o agweddau ar newyddiaduraeth ryngwladol.
Wrth i newyddiaduraeth drawsnewid, nid newyddiaduraeth brintiedig a darlledu draddodiadol yw unig ffocws y cyfryngau modern mwyach. Mae'r rhaglen hon yn eich paratoi i ffynnu mewn amgylchedd cyflym, gan eich galluogi i feithrin y sgiliau uwch sydd eu hangen ar gyfer creu cynnwys digidol, cynhyrchu fideo ac adrodd straeon rhyngweithiol.
Byddwch yn ennill profiad ymarferol gyda meddalwedd a thechnolegau safonol y diwydiant, gan ddysgu sut i lunio naratifau diddorol ar draws sawl platfform a chysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol. Mae ein hymagwedd drawsddisgyblaethol yn sicrhau eich bod yn datblygu'r sgiliau cydweithredol sydd eu hangen i ragori mewn timau cyfryngau modern, lle mae uniondeb newyddiadurol ac arloesi creadigol yn mynd law yn llaw.
Drwy feithrin agwedd fyd-eang mewn theori ac ymarfer, bydd y cwrs hwn yn eich paratoi i lwyddo ym myd cydgysylltiedig gohebu rhyngwladol.