Trosolwg o'r Cwrs
Mae gwrthdaro, datblygu a hawliau dynol yn themâu rhyng-gysylltiedig iawn sy'n llunio cymdeithasau, yn enwedig yn Ne'r Byd. Mae gwrthdaro, boed hynny'n arfog, yn wleidyddol neu'n gymdeithasol; yn aml yn tarfu ar ddatblygiad, gan amharu ar dwf economaidd, llywodraethu a chydlyniant cymdeithasol. I'r gwrthwyneb, gall datblygiad cynhwysol liniaru gwrthdaro drwy fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac ymyleiddio. Mae hawliau dynol yn gweithredu fel fframwaith sylfaenol, gan sicrhau urddas, cyfiawnder a rhyddid i bawb.
Bydd ein gradd MA mewn Gwrthdaro, Datblygu a Hawliau Dynol yn eich helpu i ddeall a dadansoddi'r ddynameg hon, sy’n hanfodol er mwyn archwilio heriau byd-eang, llunio polisi a hyrwyddo heddwch a datblygu cynaliadwy. Mae'r maes rhyngddisgyblaethol hwn yn galw am ymwybyddiaeth feirniadol o gyd-destunau hanesyddol, offer cyfreithiol ac astudiaethau achos cyfoes i archwilio sut gall cymdeithasau fynd i'r afael â thensiynau wrth hyrwyddo datblygiad teg sy’n seiliedig ar hawliau.
Gellir astudio'r cwrs hwn yn llawn amser dros flwyddyn, neu'n rhan-amser dros ddwy neu dair blynedd. Rydym hefyd yn cynnig MA Estynedig, a ddysgir dros ddwy flynedd yn llawn amser neu bedair blynedd yn rhan amser. Mae ein Rhaglen Meistr Estynedig yn cynnwys semester dramor lle byddwch wedi'ch lleoli mewn prifysgol arall. Mae aelodau o'n tîm addysgu academaidd a'n timau cymorth yn brofiadol o ran eich paratoi ar gyfer y flwyddyn ychwanegol hon, ac yn eich cefnogi yn ystod y flwyddyn ychwanegol. Darperir cymorth gweinyddol a bugeiliol parhaus i fyfyrwyr drwy gydol y flwyddyn i sicrhau eich bod yn elwa'n llawn o'r amser hwn.