Astudiaethau'r Oesoedd Canol, MA

Delwedd o gastell

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein MA Astudiaethau Canoloesol yn radd meistr ryngddisgyblaethol ddiddorol sy'n eich galluogi i archwilio hanes, archeoleg, llenyddiaeth ac ieithoedd o'r Henfyd Hwyr i'r Dadeni, ac ar draws gwledydd o Ynysoedd Prydain a Ffrainc i ogledd-ddwyrain Ewrop a'r Tir Sanctaidd.

Mae'r addysgu wedi'i rymuso gan arbenigedd Prifysgol Abertawe mewn meysydd megis rhywedd, hunaniaethau, diwylliant aristocrataidd, a ffiniau a gororau. Trwy gydol y rhaglen, bydd gennych chi'r cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth am dreftadaeth ganoloesol de Cymru a'r cyffiniau.

Os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau ymchwil, dadansoddi a chyflwyno ymhellach, yn barod ar gyfer gyrfa yn y sector cyhoeddus neu breifat, neu'n paratoi am lefel uwch o astudio neu ymchwil, gallai’r rhaglen hon fod yn ddewis perffaith i chi.

Pam Astudiaethau'r Oesoedd Canol yn Abertawe?

Bydd eich astudiaethau yn cael eu cyfoethogi gan y cysylltiadau dylanwadol sydd gennym ym Mhrifysgol Abertawe. Ymhlith y rhain mae sefydliadau sy'n gyfrifol am gadwraeth safleoedd hanesyddol Cymru fel Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn ogystal â Swyddfa Cofnodion Gorllewin Morgannwg a Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Henffordd.

Byddwch yn astudio ar ein Campws Parc Singleton trawiadol, sy'n edrych dros Fae Abertawe ar drothwy penrhyn Gŵyr.

Byddwch chi'n ymuno ag adran flaenllaw, sy'n adnabyddus am ei harbenigedd ymchwil:

  • Dyfarnwyd bod 100% o'r effaith yn sgîl ein hymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021)

Eich Profiad Astudiaethau'r Oesoedd Canol

Byddwch chi'n elwa o gael mynediad at addysgu a arweinir gan arbenigwyr; yn dysgu gan ysgolheigion blaenllaw sy'n rhan weithredol o'n canolfannau ymchwil, ac yn aml yn croesawu cyfraniad myfyrwyr mewn prosiectau presennol. Bydd eich astudiaethau'n hyblyg ac yn rhyngddisgyblaethol, gan eich galluogi i feithrin sgiliau a gwybodaeth ar draws ystod o themâu a phynciau, gyda'r gallu i ddewis modiwlau o'n graddau MA arbenigol eraill (megis yr MA mewn Hanes neu raddau MA a addysgir yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu), a dewis eich asesiadau eich hunain sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau a'ch nodau.

I ddechrau'r rhaglen, byddwch chi'n astudio tri modiwl 20 credyd (un sy’n orfodol, dau sy’n ddewisol), sydd wedi'u dylunio'n benodol i ddatblygu eich dealltwriaeth o astudiaethau canoloesol fel disgyblaeth. Byddwch chi wedyn yn astudio tri modiwl 20 credyd arall (dau sy’n orfodol, un sy’n ddewisol), cyn ymgymryd â phrosiect traethawd hir gwerth 60 credyd yn ail ran y cwrs. Mae'r gydran dysgu annibynnol cyfeiriedig hon yn eich galluogi i gynnal ymchwil fanwl, gan gael eich arwain gan academyddion arbenigol. Y penllanw fydd traethawd hir yn arddangos eich canfyddiadau a'ch gwybodaeth, gan eich galluogi i ddatblygu sgiliau ymchwil uwch.

Bydd gennych hefyd y cyfle i ymgymryd â thaith astudio Hanes a Threftadaeth, i gael profiad o'r gorffennol yn ei le, ac ychwanegu profiad cyd-destunol gwerthfawr at eich astudiaethau.

Yn Abertawe, byddwch yn elwa o fod yng nghanol nifer mawr o haneswyr, yn ogystal â phresenoldeb ehangach Canolfannau Ymchwil yr Ysgol, Canolfan Callaghan ar gyfer Astudio Gwrthdaro, Pŵer ac Ymerodraethau, a Chanolfan Richard Burton.

Byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth gyfoethog o adnoddau ymchwil ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig yn yr Ysgol. Yn ogystal â chasgliadau cyffredinol llyfrgell y Brifysgol, mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth o fewn pellter teithio ac rydym yn gweithio'n agos gydag Orielau ac Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru. Mae hefyd ystafell gyffredin ôl-raddedig ac ystafell adnoddau electronig pwrpasol ar gael yn Adeilad James Callaghan.

Cyfleoedd Cyflogaeth Astudiaethau'r Oesoedd Canol

Ar ôl graddio o’n MA mewn Astudiaethau Canoloesol, gallwch ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy sy'n creu argraff dda gan gynnwys y rhai hynny'n sy'n canolbwyntio ar feddwl beirniadol annibynnol, sgiliau dadansoddi, y gallu i brosesu a chyfuno llawer o wybodaeth, a chymryd rhan mewn trafodaethau am bynciau penodol.

Byddwch hefyd yn meithrin sgiliau cyfathrebu cryf ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan ddysgu sut i ddadansoddi digwyddiadau allweddol yn y gorffennol. Ond byddwch hefyd yn datblygu'r gallu i ddefnyddio'r wybodaeth hon fel sylfaen ar gyfer dysgu a datblygu er budd dyfodol cymdeithas. Mae'r sgiliau datrys problemau hyn yn drosglwyddadwy ar draws nifer o ddiwydiannau sy'n canolbwyntio ar gymdeithasau presennol, yn enwedig busnes, gwleidyddiaeth a'r byd academaidd.

Bydd gennych chi'r cyfle i feithrin profiad yn y gweithle drwy gydol y rhaglen, i'ch paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol, gydag ystod o gyfleoedd ar gael yn y gweithle. Mae'r rhain yn cynnwys modiwl dynodedig sy'n sicrhau lleoliad gwaith i chi, naill ai’n fewnol neu gyda darparwr allanol. Mae'r opsiwn hwn yn eich galluogi i gronni 100 awr o brofiad ymarferol yn gweithio gyda sefydliad treftadaeth neu brosiect mewn rôl ar lefel raddedig. Gall lleoliadau gwaith gynnwys meithrin sgiliau mewn gwaith amgueddfa, prosiectau cymunedol, dehongli neu bolisi treftadaeth. Bydd eich dysgu o'r gwaith hwn yn cael ei roi mewn cyd-destun drwy seminarau grŵp dwy awr o hyd, a hyd at gyfanswm o ddwy awr o diwtorialau unigol gydag aelod o’r staff academaidd. Yn sgîl hyn, byddwch yn paratoi traethawd estynedig sy'n myfyrio ar eich profiad yng nghyd-destun llenyddiaeth am dreftadaeth a hanes cyhoeddus.

Mae'r MA hon yn rhoi'r sgiliau i raddedigion i’w galluogi i weithio mewn ystod o yrfaoedd, gan gynnwys:

  • Rolau i raddedigion mewn ystod o broffesiynau, gan gynnwys y Gwasanaeth Sifil, y Llywodraeth, Addysg, Sefydliadau Treftadaeth, Marchnata, Hysbysebu, Rolau Polisi ym maes eang Diwylliant a Hamdden, a rolau sy'n galw am sgiliau meddwl yn feirniadol uwch, wedi'u cyfuno â phrofiad yn y gweithle, megis Rheoli Digwyddiadau. Gall graddedigion hefyd ymgymryd â graddau ymchwil pellach i ddilyn gyrfa yn y byd academaidd.

Mae cymorth ar gael gan Wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol. Gall y gwasanaeth eich helpu gyda'ch taith i waith i raddedigion drwy ddigwyddiadau, gweithdai a chyngor ac arweiniad un i un ar yrfaoedd.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol

2.2