Yn Abertawe, byddwch yn elwa o addysg o ansawdd uchel, sydd wedi’i llywio gan ymchwil, sy'n cyfuno amrywiaeth o ddulliau addysgu effeithiol a chynhwysol, wedi'u teilwra'n ofalus i ddiwallu anghenion eich cwrs. Addysgir y cwrs hwn wyneb yn wyneb, ar y campws, gan roi cyfle i chi feithrin cysylltiadau â myfyrwyr eraill, staff academaidd, a chymuned ehangach y Brifysgol.
Caiff y rhaglen ei haddysgu drwy gymysgedd o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai, gan gynnig ymagwedd gytbwys at ddysgu. Mae'r amrywiaeth hon yn sicrhau bod myfyrwyr yn medru ymdrin â’r deunydd mewn ffyrdd gwahanol, gan wella eu dealltwriaeth a'r ffyrdd y maen nhw'n cadw'r wybodaeth, gan eu galluogi i ddefnyddio eu cryfderau gan ddatblygu sgiliau eraill ymhellach ar yr un pryd. Mae natur ryngweithiol seminarau a gweithdai yn annog cyfranogiad gweithredol a thrafodaeth feirniadol, sy'n hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau dadansoddol.
Mae asesiadau wedi'u dylunio i werthuso dealltwriaeth ddamcaniaethol a defnydd ymarferol. Maen nhw'n cynnwys traethodau, cyflwyniadau, ysgrifennu adroddiadau, adolygiadau beirniadol a'r prosiect traethawd hir. Mae'r amrywiaeth eang o ddulliau asesu yn sicrhau bod myfyrwyr yn medru arddangos eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn ffyrdd gwahanol, gan eu paratoi ar gyfer cyd-destunau proffesiynol gwahanol.
Defnyddir offer dysgu digidol hefyd i wella'ch profiad dysgu. Gallai’r rhain gynnwys:
- Darlithoedd wedi'u recordio i gefnogi astudio ac adolygu hyblyg.
- Adnoddau ar-lein ar amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol (Canvas), gan gynnwys fideos, deunyddiau darllen, cwisiau a fforymau trafod.
Mae'r ymagwedd hon yn eich galluogi i ymdrin â chynnwys a'i adolygu yn eich amser eich hun wrth elwa o strwythur a chefnogaeth addysgu wyneb yn wyneb.
Sylwer: Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol sy'n astudio â Fisa Llwybr Myfyrwyr, sylwer y bydd eich gweithgareddau wedi'u hamserlennu, ynghyd ag unrhyw weithgareddau goruchwylio ychwanegol (gyda staff Prifysgol Abertawe yn bresennol) yn cael eu cynnal ar y campws. Yn unol â phrotocol UKVI, bydd y sesiynau hyn yn cael eu monitro a bydd data ar gael ar gais.