Addysg Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, MA / PGDip

Darganfyddwch sut i Ddysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill

Delwedd o ddiffiniad geiriadur o 'ieithyddiaeth'

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MA mewn Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn eich helpu i feithrin y sgiliau gwerthfawr sydd eu hangen i fynd i'r afael â heriau damcaniaethol ac ymarferol addysgu Saesneg fel iaith dramor neu ail iaith.   

Gallwch ddewis cwblhau traethawd hir neu lunio portffolio ar gyfer ail gam y cwrs.

Pam Addysg Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn Abertawe?

Mae gan Brifysgol Abertawe un o'r canolfannau addysg a hyfforddiant TESOL mwyaf sefydledig yn y DU ac mae ganddi enw da rhyngwladol am ragoriaeth ym maes ymchwil i eirfa.

Mae Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau wedi’i leoli ar ein campws bywiog ym Mharc Singleton, ar barcdir sy’n edrych dros Fae Abertawe.

Mae’r Ganolfan i Raddedigion wedi’i dylunio i hyrwyddo gweithgareddau ymchwil unigol a chydweithredol o safon ryngwladol, gan ddarparu amgylchedd cefnogol i’r rheini sy’n gwneud ymchwil ôl-raddedig ac yn astudio cwrs meistr a addysgir.

Mae’n cynnig hyfforddiant ôl-raddedig er mwyn gwella datblygiad academaidd a phroffesiynol, ac mae’n hwyluso rhaglenni seminar, gweithdai a chynadleddau rhyngwladol.

Eich Profiad Addysg Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill

Mae’r cwrs amser llawn wedi’i rannu ar draws y flwyddyn gyda thri modiwl yn cael eu cynnig ym mhob tymor academaidd, cyn i bortffolio ymarfer proffesiynol gael ei lunio neu cyn i draethawd hir gael ei ysgrifennu dros yr haf.

Mae amrywiaeth o fodiwlau diddorol yn cynnwys:

  • Addysgu iaith gyfathrebol
  • Dadansoddi gramadegol
  • Dadansoddi mynegiant at ddibenion addysgu iaith
  • Dulliau ymchwil ar gyfer ieithyddiaeth gymhwysol 
  • Caffael ail iaith
  • Geirfa: addysgu a dysgu

Cyfleoedd Cyflogaeth Addysg Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill

Mae'r MA mewn Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn gwrs delfrydol os yw'ch bryd ar ddilyn gyrfa iaith gymhwysol.

Mae graddedigion o'r cwrs hwn fel arfer yn mynd ymlaen i astudio ymhellach, gwneud ymchwil neu addysgu.

Modiwlau

Byddwch yn astudio nifer benodol o fodiwlau 20-credyd gorfodol a dewisol cyn cyflawni portffolio neu brosiect traethawd hir 60-credyd. Mae ystod eang o fodiwlau'n cynnwys addysgu iaith gyfathrebol, dadansoddi gramadeg ac ymarfer myfyriol proffesiynol.