Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd MA mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yn gwrs arbenigol unigryw sy'n meithrin sgiliau a phrofiad mewn astudiaethau cyfieithu arbenigol, gan roi pwyslais cryf ar gyfieithu ar y pryd mewn amrywiaeth o leoliadau a dulliau.
Mae Prifysgol Abertawe'n gyn-aelod o Rwydwaith Graddau Meistr Cyfieithu Ewrop (EMT) ac mae ein cyrsiau'n cydymffurfio â phatrwm addysg uwch Bologna, felly gallwch fod yn hyderus bod enw da gan eich gradd a'i bod yn rhoi pwyslais ar gyflogadwyedd.
Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn elwa o lefel uchel o hyblygrwydd, gan fod ein cyrsiau ar gael ar sail amser llawn a rhan-amser, a cheir opsiwn hefyd i gwblhau'r rhaglen estynedig dwy flynedd o hyd mewn 15 mis.
Os dewiswch astudio'r radd estynedig dwy flynedd o hyd, byddwch hefyd yn elwa o gredydau arbenigedd y gellir eu hennill drwy astudiaethau pellach ym Mhrifysgol Abertawe neu drwy gwblhau semester dramor yn un o'n sefydliadau partner.
I siaradwyr Saesneg a Ffrangeg brodorol, neu'r rhai sy’n agos at y safon honno, rydym hefyd yn cynnig rhaglen MA ddwbl mewn Cyfieithu Arbenigol gydag Université Grenoble Alpes (UGA) yn Ffrainc.
