Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Estynedig), MA

Dysgwch i Arbenigo mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd

Myfyrwyr mewn labordy iaith

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MA Estynedig mewn Cyfieithu a Dehongli (MATI) yn amrywiad arbenigol unigryw o'n cwrs Cyfieithu Proffesiynol, gyda phwyslais ar sgiliau dehongli. Mae'n eich helpu i ddatblygu o fod yn siaradwr iaith dramor ardderchog i fod yn ieithydd proffesiynol llwyddiannus.

Bydd eich astudiaethau cyfieithu uwch yn canolbwyntio ar fathau cyffredinol, gweinyddol a thechnegol o destun, gan ddehongli mewn un neu ddau o blith llywodraeth leol, iechyd, yr heddlu a'r llysoedd, a hyfforddiant ar adnoddau cyfieithu â chymorth cyfrifiadur sy'n cyrraedd safon y diwydiant.

Mae rhan gyntaf y radd yn cynnwys y cyfle i arbenigo mewn dehongli, cyfieithu clywedol, cyfieithu peirianyddol a lleoli meddalwedd, rheoli terminoleg, creu fideo neu gyhoeddi digidol.

Yn y modiwl profiad gwaith ym maes cyfieithu byddwch yn dynwared cwmnïau cyfieithu drwy weithio gyda busnesau cyfieithu lleol a chyflawni gwaith comisiynu go iawn i safonau proffesiynol.

Yn ail ran y radd cewch ddewis o ddau gyfieithiad estynedig, neu draethawd hir academaidd, neu interniaeth 13 wythnos gyda chwmni cyfieithu yn y DU neu dramor.

Parau iaith (yn amodol ar alw):

  • Almaeneg > Saesneg
  • Saesneg > Almaeneg
  • Ffrangeg > Saesneg
  • Saesneg > Ffrangeg
  • Eidaleg > Saesneg
  • Saesneg > Eidaleg
  • Sbaeneg > Saesneg
  • Saesneg > Sbaeneg
  • Cymraeg > Saesneg
  • Saesneg > Cymraeg
  • Saesneg > Arabeg
  • Saesneg > Mandarin

Opsiwn ail gam unigryw yw blwyddyn dramor METS, lle byddwch yn astudio 50 credyd mewn dwy ysgol gyfieithu bartner, gydag adroddiad 20 credyd ar gyfer Abertawe yn arwain at ddyfarniad dwbl: MA Abertawe yn ogystal â Diploma METS.

Pam Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Estynedig) yn Abertawe?

Fel yr unig aelod o Rwydwaith Gradd Meistr mewn Cyfieithu Ewrop yng Nghymru, mae gan Brifysgol Abertawe enw da ym maes cyfieithu proffesiynol. Mae gennym gyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n cyrraedd safon y diwydiant, ynghyd â rhwydwaith byd-eang cadarn o sefydliadau allanol i helpu i lywio eich astudiaethau.

Mae Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau wedi’i leoli ar ein campws ysbrydoledig ym Mharc Singleton, ar barcdir sy’n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr.

Wedi’i dylunio i hyrwyddo gweithgareddau ymchwil unigol a chydweithredol o safon ryngwladol, mae'r Ganolfan i Raddedigion yn darparu amgylchedd cefnogol ar gyfer ymchwil ôl-raddedig ac astudio cwrs meistr a addysgir.

Mae’n cynnig hyfforddiant ôl-raddedig er mwyn gwella datblygiad academaidd a phroffesiynol, ac mae’n hwyluso rhaglenni seminar, gweithdai a chynadleddau rhyngwladol.

Eich Profiad Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Estynedig)

Byddwch yn astudio nifer benodol o fodiwlau gorfodol a dewisol 20 credyd ar gyfieithu a dehongli uwch, cyn astudio modiwl 60 credyd ar ddau gyfieithiad estynedig, neu draethawd hir academaidd, neu interniaeth 13 wythnos mewn cwmni cyfieithu.

Mae'r cwrs estynedig hwn yn cynnwys 60 credyd arall o fodiwlau rhan un, neu ail brosiect.

Mae'r modiwlau'n cwmpasu cyfieithu a dehongli uwch ar gyfer nifer o ieithoedd gwahanol mewn cyd-destunau a diwydiannau gwahanol. Ceir modiwlau arbenigol ar gyfer dehongli busnes, iechyd a'r gyfraith.

Yn yr ail ran, mae'r opsiwn cyfieithu estynedig yn cynnig y cyfle i chi ddatblygu maes arbenigol. Rhaid i un cyfieithiad fod yn dechnegol a chael ei wneud gan ddefnyddio prif adnodd CAT.

Gall yr opsiwn traethawd hir ganolbwyntio ar bwnc astudiaethau cyfieithu, fel cymharu dau neu fwy o gyfieithiadau a gyhoeddwud, neu ymchwil i derminoleg mewn maes arbenigol, neu ymchwilio i dechnoleg cyfieithu.

Gall yr opsiwn interniaeth gael ei gyflawni yn y DU neu dramor. Mae ein rhestr hir o gysylltiadau proffesiynol ar gael i chi ond rhaid i chi wneud eich ceisiadau eich hunain a llwyddo mewn profion derbyn.

Opsiwn ail gam unigryw yw cynllun blwyddyn dramor METS. Yn yr opsiwn hwn byddwch yn astudio 50 credyd mewn dwy ysgol gyfieithu bartner dramor, gydag adroddiad 20 credyd ar gyfer Abertawe yn arwain at ddyfarniad dwbl: MA Abertawe yn ogystal â Diploma METS.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Estynedig)

Mae'r MA galwedigaethol mewn Cyfieithu a Dehongli Estynedig yn gwella eich rhagolygon gyrfa yn sylweddol. Yn ystod eich astudiaethau, neu eich interniaeth, efallai y gwnewch gysylltiadau a gaiff effaith uniongyrchol ar eich gwaith yn y dyfodol.

Mae graddedigion o’r cwrs hwn yn cyflawni amrywiaeth o rolau cyfieithu a dehongli gwahanol. Mae llawer hefyd yn gwneud graddau ymchwil ac yn dilyn gyrfa academaidd.

Modiwlau

Byddwch yn astudio nifer benodol o fodiwlau gorfodol a dewisol 20 credyd ar gyfieithu a dehongli uwch, cyn astudio modiwl 60 credyd ar ddau gyfieithiad estynedig, neu draethawd hir academaidd, neu interniaeth 13 wythnos mewn cwmni cyfieithu.

Mae'r modiwlau'n cwmpasu cyfieithu a dehongli uwch ar gyfer nifer o ieithoedd gwahanol mewn cyd-destunau a diwydiannau gwahanol. Ceir modiwlau arbenigol ar gyfer dehongli busnes, iechyd a'r gyfraith.

Opsiwn ail gam unigryw yw blwyddyn dramor METS, lle byddwch yn astudio 50 credyd mewn dwy ysgol gyfieithu bartner, gan arwain at ddyfarniad dwbl: MA Abertawe yn ogystal â Diploma METS.