Trosolwg o'r Cwrs
Nod ein gradd MA mewn Cyfieithu Proffesiynol yw troi ieithyddion yn gyfieithwyr medrus, â rhagolygon gyrfa rhyngwladol cryf.
Mae gan Brifysgol Abertawe enw da am astudiaethau cyfieithu, gan groesawu myfyrwyr o bob cwr o'r byd ers dechrau'r 1990au a dod yn un o bum aelod sefydlol Rhwydwaith Meistr mewn Cyfieithu Ewropeaidd (EMT) y y DU yn 2009, a sefydlwyd gan Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Cyfieithu'r Comisiwn Ewropeaidd, i godi safonau wrth hyfforddi cyfieithwyr.
Mae ein cwrs 1 flwyddyn, a'n cwrs estynedig 2 flynedd, wedi'u datblygu i gydymffurfio â phatrwm Bologna Addysg Uwch, a gellir eu hastudio naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser, gyda hyblygrwydd i ganiatáu ichi gwblhau'r cwrs 2 flynedd mewn 15 mis.
Mae ein cwrs Estynedig 2 flynedd yn cynnig y cyfle i ychwanegu credydau arbenigo at eich gradd, naill ai drwy astudiaeth bellach yn y brifysgol, neu drwy semester dramor yn un o'n sefydliadau partner. Bydd rhagor o fanylion am y cyfleoedd hyn ar gael yn ystod y flwyddyn gyntaf o astudio.
I fyfyrwyr sydd â Saesneg a Ffrangeg fel iaith frodorol neu gymhwysedd uchel, rydym hefyd yn cynnig dyfarniad Dwbl mewn Cyfieithu Proffesiynol Université Grenoble-Alpes (UGA) yn Ffrainc.
