Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein MA Llenyddiaeth Saesneg yn Abertawe'n rhaglen wych sy'n cynnig y cyfle i chi archwilio meysydd amrywiol diwylliant llenyddol a meithrin eich diddordebau ymchwil unigryw eich hun.
Byddwch yn datblygu eich sgiliau ymchwil ac ysgrifennu beirniadol i lefel broffesiynol wrth ddarllen yn eang ar draws llenyddiaeth Saesneg, o'r oes ganoloesol hyd heddiw.
Mae ein MA yn cynnig ymagwedd ryngddisgyblaethol at lenyddiaeth sy'n ystyried testunau mewn perthynas â hanes, athroniaeth, gwleidyddiaeth a diwylliant gweledol. Ar y rhaglen hon, rydym yn eich annog i ddatblygu eich annibyniaeth a’ch arbenigedd ymchwil, cyn gorffen gyda phrosiect traethawd hir ar bwnc o'ch dewis.
Nod y rhaglen yw mynd i'r afael â chwestiynau hollbwysig am rôl llenyddiaeth, y celfyddydau a diwylliant yng nghymdeithas y dyfodol. Mae'n ystyried sut y gall creadigrwydd, cymuned a hunaniaeth ein helpu i wynebu heriau byd-eang mwyaf y byd sydd ohoni - o newid yn yr hinsawdd i anghydraddoldeb.
At hynny, cewch eich addysgu gan arbenigwyr o fri rhyngwladol ym meysydd Llenyddiaeth Saesneg Cymru, Llenyddiaeth Gothig, Llenyddiaeth Ganoloesol, Llenyddiaeth Neo-Fictoraidd, Moderniaeth, Llenyddiaeth Fodern Gynnar ac amrywiaeth o ddamcaniaethau llenyddol.