Ysgrifennu Creadigol, MA

Astudia Ysgrifennu Creadigol a Datblygu Sgiliau Ysgrifennu'r Cyfryngau

Llun o fyfyrwyr yn mwynhau eu hastudiaethau yn y llyfrgell

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein cwrs MA Ysgrifennu Creadigol yn rhaglen ysbrydoledig unigryw sy'n darparu hyfforddiant integredig ym maes ysgrifennu testun llenyddol a thestun ar gyfer y cyfryngau.

Mae'r rhaglen, a addysgir gan awduron profiadol ac arobryn, yn darparu addysgu ar amrywiaeth o genres gan gynnwys cynnwys ffuglen, y stori fer, barddoniaeth, drama, ysgrifennu sgriptiau ac ysgrifennu ffeithiol creadigol.

Drwy gydol eich astudiaethau cewch gyfle i feithrin cysylltiadau personol â Theatr Genedlaethol Cymru, Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, y Sefydliad Diwylliannol, cyhoeddwyr annibynnol ac asiantau llenyddol, fel rhan o gymuned fywiog o artistiaid yn Abertawe. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio dramor, mae ein cwrs MA Ysgrifennu Creadigol (Estynedig) sy'n para 2 flynedd yn cynnwys cyfnod o astudio yn ein sefydliad partner, Prifysgol Canolbarth Oklahoma, UDA.

Pam Ysgrifennu Creadigol yn Abertawe?

Mae'r rhaglen Ysgrifennu Creadigol wedi'i gwreiddio mewn amgylchedd gweithdy llawn dychymyg sy'n grymuso myfyrwyr i fod yn ddysgwyr gweithredol a hunanbenderfynol. Rydym yn pwysleisio creadigrwydd, annibyniaeth, ac integreiddio damcaniaeth ac ymarfer, er mwyn sicrhau y byddwch yn cael profiad addysgol unigryw, wedi'i deilwra i'ch anghenion a'ch gwaith creadigol.

Mae ein gradd wedi'i chynllunio i hyrwyddo gweithgarwch ymchwil unigol a chydweithredol o safon ryngwladol, ac mae ein Canolfan Graddedigion yn cynnig amgylchedd cefnogol ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig, gyda hyfforddiant i wella eich datblygiad academaidd a phroffesiynol. 

Eich Profiad Ysgrifennu Creadigol

Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn datblygu'r sgiliau i ddatgloi eich dychymyg a'ch creadigrwydd, gan hogi crefft adrodd straeon a barddoniaeth, o naratif a llais, i ffurf a strwythur.

Bydd ein hamrywiaeth o fodiwlau, sy'n cynnwys ffuglen, barddoniaeth, ysgrifennu ar gyfer y sgrîn, ffeithiol, drama a chyhoeddi, ynghyd â gweithdai ymarferol a darlithwyr gwadd o fyd y celfyddydau a chyhoeddi rhyngwladol (trwy'r Sefydliad Diwylliannol), i gyd wedi'u cefnogi gan ein tîm academaidd profiadol, arobryn sy'n meithrin amgylchedd dysgu cyfeillgar a chefnogol, yn eich helpu i ddod o hyd i’ch llais llenyddol unigryw eich hun.

Cyfleoedd Cyflogaeth Ysgrifennu Creadigol

Mae ein gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn rhoi i chi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad i’ch galluogi i ymgysylltu â'r diwydiannau creadigol, ynghyd â’r hyder i gyflwyno eich prosiectau creadigol a'ch gwaith ar draws sawl llwyfan creadigol. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o rolau ym meysydd cyhoeddi, darlledu, marchnata a hysbysebu, ac mae llawer yn gweithio fel awduron cyhoeddedig arobryn.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol

2.2