Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd MA Ysgrifennu Creadigol (Estynedig) yn cynnig manteision ein cwrs MA sy’n para blwyddyn, lle byddwch yn cael eich hyfforddi i ysgrifennu testun llenyddol a chyfryngau, ynghyd â chyfnod o astudio dramor yn ein sefydliad partner yn yr Unol Daleithiau i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu a'ch profiad o hynny.
Yn ystod eich dwy flynedd o astudio byddwch yn cael eich addysgu mewn ystod eang o genres, gan gynnwys ffuglen, barddoniaeth, ffuglen wyddonol, ysgrifennu sgrîn a ffeithiol greadigol, gan dreulio'ch amser yn Abertawe yn meithrin cysylltiadau personol â Theatr Genedlaethol Cymru, Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, y Sefydliad Diwylliannol a chyhoeddwyr annibynnol ac asiantau llenyddol, ac yn datblygu eich sgiliau, eich profiad a’ch cyflogadwyedd yn ystod eich semester dramor ym Mhrifysgol Canolbarth Oklahoma.