Mae’r staff addysgu’n ymchwilwyr gweithredol ac mae eu gwaith wedi ei gyhoeddi’n eang.
Cwblhaodd Dr Pete King ei PhD mewn Astudiaethau Plentyndod yn 2013 ym Mhrifysgol Abertawe ac ef yw’r rheolwr rhaglen ar gyfer yr MA mewn Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig a hefyd yr MA mewn Rhaglenni Astudiaethau Plentyndod. Mae Pete hefyd yn arweinydd modiwl ar gyfer Theori Chwarae ac Ymarfer a Gwaith Therapiwtig gyda Phlant ac mae’n cyfrannu tuag at Safbwyntiau ar chwarae, ac am oruchwylio myfyrwyr traethawd.
Ymunodd Dr Justine Howard â Phrifysgol Abertawe yn 2008 ac mae’n Athro Cyswllt a Seicolegydd Siartredig yn arbenigo mewn datblygiad plant. Mae nifer o lyfrau cyhoeddedig Justine yn adlewyrchu ei chefndir proffesiynol mewn addysg a chwarae datblygiadol a therapiwtig. Mae Justine yn gyfrifol am y modylau Deall ac Arsylwi Plant, Safbwyntiau ar Chwarae ac Ymarfer Uwch, ac mae’n cyfrannu i fodiwl Theori Chwarae ac Ymarfer ynghyd â goruchwylio myfyrwyr traethawd.
Dr Janice Lewis sy’n arwain modiwl Hawliau Plant a Diogelu Plant a Phobl Ifanc ac mae wedi gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ers 2005. Mae ei chefndir proffesiynol ym meysydd nyrsio plant, ymweliad iechyd, gofal iechyd cychwynnol ac ymglymiad mewn ymchwil iechyd cyhoeddus yn hysbysu ei hathrawiaeth diogelwch.
Darlithydd yw Dr Michael R.M. Ward mewn Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe ac mae ei waith yn canolbwyntio ar berfformiad gwrywdod dosbarth gweithiol o fewn a thu hwnt i sefydliadau addysgiadol. Mae e wedi ysgrifennu llu o erthyglau cylchgronau wedi eu hadolygu gan gymheiriaid, penodau llyfr ac adroddiadau ac ef yw awdur y llyfr gwobrwyedig From Labouring to Learning, Working-class Masculinities. Mike yw cynullydd y modiwl ar gyfer modiwl Ymchwilio Plentyndod ac mae’n goruchwylio myfyrwyr traethawd.
Mae Dr Sophia Komninou yn wyddonydd rhyngddisgyblaethol gyda chefndir ar Faethiad a Seicoleg Iechyd. Mae wedi bod yn addysgu’r rhaglen Meistr ers 2016 ac yn arweinydd modiwl ar gyfer y modiwl Iechyd Plant, yn cyfrannu tuag at fodiwl plentyndod gan ddarparu arbenigedd ymagwedd ymchwil feintiol a goruchwylio myfyrwyr traethawd.
Mae Dr Gideon Calder wedi dysgu polisi cymdeithasol a chymdeithaseg ym Mhrifysgol Abertawe ers 2016. Mae ei waith cyhoeddedig yn ffocysu’n bennaf ar gymhwyso dadleuon damcaniaethol am gyfiawnder cymdeithasol i bryderon cymdeithasol cyfredol, ymarferion a blaenoriaethau. Yn ddiweddar fe wnaeth cyd-olygu’r Routledge Handbook of the Philosophy of Childhood and Children. Mae’n cyfrannu i fodylau Hawliau Plant a Diogelu Plant a Phobl Ifanc a goruchwylio myfyrwyr traethawd.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein harbenigedd academaidd ar y tudalennau staff.