Addysg (Cymru) Anghenion Dysgu Ychwanegol, MA

Rhaglen drawsnewidiol ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru

pobl

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r rhaglen Genedlaethol MA mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol yn rhaglen drawsnewidiol sy'n arwain y sector ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch-arweinwyr sydd â diddordeb mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol. 

Mae'r tirlun addysgol yng Nghymru'n newid yn gyflym. Rhaid meistroli set o sgiliau cymhleth i dywys, ysgogi a hwyluso dysgu myfyrwyr wrth addysgu, ond hefyd rhaid cael y gallu i ymholi ynghylch arfer proffesiynol er mwyn ei wella.

Yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): rhaglen Anghenion Dysgu Ychwanegol - sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gyfranogiad uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru - a bydd yn sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru yn meddu ar yr un cyfle o safon i wella eu gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil a gwella eu arfer proffesiynol ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Caiff darpar fyfyrwyr eu hannog i gysylltu â Siôn Owen.

Gweler y Cwestiynau Cyffredin Derbyn am fanylion sut i gyflwyno cais am MA Addysgu (Cymru).

Pam Addysg (Cymru) Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Abertawe?

Byddwch wedi'ch lleoli ar gampws hyfryd Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar ymyl Penrhyn Gŵyr, a byddwch yn astudio rhaglen sy'n hyrwyddo gweithgareddau ymchwil unigol ac ar y cyd o safon ryngwladol.  Mae hyfforddiant ôl-raddedig ar gael er mwyn gwella datblygiad academaidd a phroffesiynol, yn ogystal â rhaglenni seminar, gweithdai a chynadleddau rhyngwladol.

Eich Profiad Addysg (Cymru) Anghenion Dysgu Ychwanegol

Cwrs 3 blynedd rhan-amser yw hwn. Ni cheir opsiwn amser llawn.

Mae'r rhaglen yn cynnwys 200 awr o astudio fesul modiwl 20 credyd, a bydd 22 ohonynt yn oriau cyswllt. Bydd dysgu'n gyfuniad o ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd gweithgareddau'n gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithgareddau grŵp a gweithgareddau unigol.

Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn ymuno â myfyrwyr ar yr un cwrs mewn 6 SAU arall.  Bydd cymorth cyfoedion a gynhelir gan y PLP CGA, ynghyd â'r holl wasanaethau a dulliau cymorth eraill ym Mhrifysgol Abertawe, a chyfres o ddiwrnodau Cynadleddau Cenedlaethol ar draws y flwyddyn academaidd, lle bydd yr holl fyfyrwyr ledled Cymru'n dod ynghyd i ddysgu a rhannu eu profiadau.

Cyfleoedd Cyflogaeth Addysg (Cymru) Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae'r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg sydd eisoes wedi cychwyn ar eu gyrfa.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cyfle Cyffrous i Ymarferwyr Addysgol Proffesiynol!

Digwyddiad Gwybodaeth MA Addysg (Cymru) – 15 Mehefin, 4-4.30pm

Gallwch gwrdd â'r tîm yn ein sesiwn holi ac ateb fyw ar Zoom i ddarganfod mwy am astudio MA Addysg (Cymru) gyda Phrifysgol Abertawe! 

Cadwch eich lle yma

Noson Agored Rithwir

15/06/2026

16:00 - 16:30 BST

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen
Teacher and Students