Trosolwg o'r Cwrs
Hoffech chi gael gyrfa ddynamig mewn llywodraeth, busnes neu gyllid sy'n galw am arbenigedd mewn economeg ac sy'n talu'n dda? Oes gennych sgiliau meddwl yn feirniadol a dadansoddi ardderchog ac ydych chi'n gyfathrebwr da?
Mae Economeg yn chwarae rôl bwysig ym myd busnes, gan ddarparu dealltwriaeth o gymhellion ac ymddygiad cwsmeriaid, cyflenwyr, cystadleuwyr, cyflogwyr ac arianwyr. Mae'n hollbwysig hefyd ar gyfer llywio prosesau penderfynu strategol a gweithredol rheolwyr a chyfarwyddwyr. Ar y cynllun gradd hwn, byddwch yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eich gwneud yn ddeniadol iawn i gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ac yn hwyluso'ch llwybr i yrfa sy'n talu cyflog uchel.
Mae eich rhaglen MSc mewn Economeg ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i chynllunio ar gyfer graddedigion mewn meysydd perthynol i economeg sy'n chwilio am raglen uwch i gyfoethogi eu gyrfaoedd neu i archwilio cyfleodd i wneud ymchwil pellach.
Byddwch yn meithrin y sgiliau a'r arbenigedd a ddisgwylir gan yr economydd proffesiynol, gan ddatblygu'ch gallu i ddeall a chynnal ymchwil arloesol mewn sefyllfaoedd damcaniaethol ac ymarferol.
Bydd y sgiliau trosglwyddadwy, soffistigedig ac amlochrog, y byddwch yn eu datblygu ar y cwrs hwn yn agor drysau neu'n darparu pont i amrywiaeth eang o lwybrau gyrfaol, llai arbenigol, eraill mewn masnach, diwydiant a'r byd academaidd.