Economeg a Chyllid, MSc

Rhaglen Uwch i Wella'ch Cyfleoedd Gyrfa

Myfyrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa ddynamig mewn cyllid, ymgynghori economaidd neu fasnachu a buddsoddiadau? Ydych chi'n gyfathrebwr da â sgiliau dadansoddi cryf?  P'un a ydych am weithio yn y ddinas, neu mewn canolfannau ariannol pwysig eraill ledled y byd, bydd y radd hon yn rhoi hwb i chi ddatblygu gyrfa sy'n cynnig cyflogau eithriadol o dda.

Nod y cynllun MSc Economeg a Chyllid Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yw darparu sylfaen gadarn i fyfyrwyr yn llawer o'r prif gysyniadau, dulliau modelu a thechnegau ymchwil pwysig a ddefnyddir mewn agweddau allweddol ar economeg, ac a fydd yn bwysig hefyd ym maes cyllid. 

Mae'r rhaglen hon yn addas i raddedigion mewn meysydd perthynol i economeg sy'n chwilio am raglen uwch i gyfoethogi eu gyrfaoedd neu i archwilio cyfleodd i wneud ymchwil pellach.

Drwy gyfuno damcaniaeth ac ymarfer economeg uwch â phynciau cyllid perthnasol, bydd y rhaglen hon yn eich paratoi ar gyfer gyrfa â phwyslais ar gyllid, unrhyw le yn y byd.

Pam Economeg a Chyllid yn Abertawe?

  • Addysgir ein holl fodiwlau gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sy'n meddu ar wybodaeth academaidd a phrofiad proffesiynol
  • Mae ein staff yn cynghori sefydliadau ac asiantaethau'r llywodraeth yn rheolaidd ar ddatblygu polisïau ac ymchwil economaidd ac yn cyhoeddi mewn cyfnodolion ymchwil rhyngwladol

Eich Profiad Economeg a Chyllid

O'r funud rydych yn cyrraedd yr Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, byddwn yn gweithio gyda chi i’ch helpu i feithrin eich sgiliau a'ch profiad er mwyn cyfoethogi'ch cyfleoedd gyrfa.

Cewch gyngor pwrpasol, un i un, diderfyn ar yrfaoedd gan ein tîm gyrfaoedd ymroddedig. Cewch gyfle i wneud lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) neu'r fenter Wythnos o Waith.

Mae gennym gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o sefydliadau blaenllaw gan gynnwys Dell ac Ernst and Young.

Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o rannu'r safle arloesol ar Gampws y Bae â phartneriaid diwydiannol. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys mannau wedi'u neilltuo i addysgu ac astudio, a chyfleusterau TG helaeth â'r galedwedd a'r feddalwedd arbenigol ddiweddaraf.

Cyfleoedd Cyflogaeth Economeg a Chyllid

Mae gennym brofiad helaeth o leoli ein graddedigion gyda chwmnïau amlwladol mawr.

Bydd eich rhaglen MSc Economeg a Chyllid Rhyngwladol yn darparu'r sgiliau i'ch galluogi i adeiladu gyrfa ffyniannus mewn amgylchedd cystadleuol, mewn amrywiaeth o sectorau

Gallai eich rôl nesaf fod yn unrhyw un o'r meysydd hyn:

  • Bancio Buddsoddi
  • Rolau uwch ym maes cyllid mewn sefydliadau rhyngwladol
  • Ymgynghori ar reoli

Modiwlau

Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau gorfodol a dewisol yn semester un a dau'r cwrs hwn, cyn ymgymryd â phrosiect/traethawd hir yn annibynnol yn eich trydydd semester.

 Ymwadiad: Gall dewis modiwlau newid