Development and Human Rights (Extended), MA

----------------------

Myfyrwyr y tu allan i Dŷ'r Senedd

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MA estynedig mewn Datblygu a Hawliau Dynol yn cyfuno dealltwriaeth o feysydd astudiaethau datblygu, gwleidyddiaeth a chyfraith ryngwladol.

Byddwch yn archwilio heriau byd-eang hollbwysig sy'n wynebu cymdeithasau'r 21ain ganrif drwy gwrs dynamig sy'n cyfuno safbwyntiau damcaniaethol a chymhwysol.

Dan arweiniad arbenigwyr blaenllaw, byddwch yn cymhwyso damcaniaeth gyfreithiol, dealltwriaeth wleidyddol ac ymchwil arbenigol ac offer cynllunio i ddadansoddi'r rhyngwyneb rhwng datblygiad dynol a hawliau dynol mewn polisi cyhoeddus rhyngwladol, gan gynnwys polisi ar gymorth.

Pam Development and Human Rights (Extended) yn Abertawe?

Mae MA estynedig Abertawe mewn Datblygu a Hawliau Dynol yn rhaglen unigryw ac arbennig sy'n wahanol i raglenni LLM confensiynol mewn Hawliau Dynol, yn enwedig o ran ei natur ryngddisgyblaethol a'i hymrwymiad i hyfforddiant academaidd a phroffesiynol.

Addysgir y rhaglen ar gampws Parc Singleton trawiadol, mewn parcdir â golwg dros Fae Abertawe ar ymyl Penrhyn Gŵyr, ac mae gennym yr arbenigedd a'r ystod lawn o gyfleusterau modern i sicrhau bod eich profiad dysgu yn gadarnhaol.  

Mae'r cyfle i astudio ym Mhrifysgol Gatholig Lille yn ychwanegu 60 credyd ychwanegol at y Radd Meistr, gan ei gwneud yn gyfwerth â rhaglen Meistr dwy flynedd.

Eich Profiad Development and Human Rights (Extended)

Byddwch yn cwblhau chwe modiwl gwerth 20 credyd yn Rhan 1 y rhaglen cyn ymgymryd â phrosiect traethawd hir gwerth 60 credyd yn Rhan 2.

Mae pedwar o'r chwe modiwl yn orfodol:

  • Cyfraith Hawliau Dynol Ryngwladol;
  • Ymagweddau at Ddatblygu yn Seiliedig ar Hawliau;
  • Hawliau Dynol ac Ymyrraeth Ddyngarol;
  • Materion Cysyniadol yn y Gwyddorau Cymdeithasol;

Byddwch chi hefyd yn cwblhau dau fodiwl ychwanegol o amrywiaeth o opsiynau. Mae'r rhain yn cynnwys: Trais, Gwrthdaro a Datblygu; Cymdeithas Sifil a Datblygu Rhyngwladol; Cyflwyniad i Astudiaethau Datblygu; Offer ar gyfer Cynllunio Datblygu Rhyngwladol; Astudiaethau Diogelwch Critigol; Ôl-drefedigaethedd, Dwyreinioldeb ac Ewroganoledd; Cyflwr Affrica; Diogelwch Rhyngwladol yn Asia a'r Môr Tawel; a Rhywedd, Cymdeithas a Gwleidyddiaeth yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.

Cyfleoedd Cyflogaeth Development and Human Rights (Extended)

Bydd y cwrs yn rhoi sylfaen drylwyr i chi yn y rhyngwyneb rhwng hawliau dynol a datblygu dynol mewn polisi cyhoeddus rhyngwladol ac mewn cyfraith ryngwladol. Yn ogystal, byddwch yn datblygu eich sgiliau dadansoddi beirniadol a sgiliau arbenigol yn yr offer cynllunio a ddefnyddir mewn ymarfer proffesiynol.

Mae graddedigion y cwrs hwn mewn sefyllfa dda i sicrhau cyflogaeth broffesiynol, yn gweithio gyda gweinidogaethau tramor neu gymorth, mewn sectorau cyhoeddus cenedlaethol, neu sefydliadau dyngarol eraill, gan gynnwys sefydliadau rhynglywodraethol ac anllywodraethol.