Cysylltiadau Rhyngwladol, MA

Datblygu dealltwriaeth ddofn o Ddeinameg Fyd-eang Newidiol

students speaking together

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MA mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn cyflwyno addysgu ysgogol ar y system ryngwladol. Mae'n cwmpasu materion critigol, ffigyrau blaenllaw a dulliau amgen o ddadansoddi a dehongli.

Byddwch yn meithrin gwerthfawrogiad dwfn a chynhwysfawr o ddynameg byd-eang anwadal, cyn arbenigo yn rhanbarth Asia a'r Môr Tawel.

Mae graddedigion o'r cwrs hwn yn datblygu i ddilyn gyrfaoedd boddhaol ym maes y llywodraeth a gwleidyddiaeth, sefydliadau'r Cenhedloedd Unedig, y Swyddfa Dramor a sefydliadau dyngarol.

Pam Cysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe?

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill parch am addysgu cysylltiadau rhyngwladol.

Wedi ein lleoli ar gampws bywiog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe, mae gennym yr arbenigedd a'r holl gyfleusterau modern sydd eu hangen i sicrhau bod yr hyn a ddysgwch yn gyfredol.

Ein Coleg i Raddedigion wedi'i ddylunio i hyrwyddo ymchwil unigol a chydweithredol o safon ryngwladol.

Rhydd amgylchedd cefnogol i gyflawni ymchwil ôl-raddedig ac astudiaethau meistr a addysgir, yn ogystal â hyfforddiant i wella datblygiad academaidd a phroffesiynol.

Eich Profiad Cysylltiadau Rhyngwladol

Byddwch yn astudio pedwar modiwl cysylltiadau rhyngwladol 20-credyd gorfodol, ynghyd â dau fodiwl dewisol arall cyn cyflawni prosiect traethawd hir 60-credyd o'ch dewis chi yn ystod ail hanner y cwrs.

Mae'r modiwlau gorfodol yn cynnwys: dulliau o ymdrin â chysylltiadau rhyngwladol, diogelwch rhyngwladol yn Asia a'r Môr Tawel, materion cysyniadol y gwyddorau cymdeithasol, ac ôl-wladychiaeth, dwyreinioldeb ac ewroganolaeth. Hefyd, cwmpesir cysyniadau hanesyddol a pholisi allweddol.

Mae cyfres hynod ddiddorol o fodiwlau dewisol yn amrywio o ryfel a'r gofod i wleidyddiaeth mewn Prydain gyfoes, ac o seiberlywodraethu i ddemocratiaeth a chynllunio'r cyfansoddiad.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cysylltiadau Rhyngwladol

Byddwch yn meithrin gwybodaeth ddofn am gysylltiadau rhyngwladol, yn ogystal â sgiliau llafar ac ysgrifennu proffesiynol o'r radd flaenaf.

Mae graddedigion o'r MA mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd gyda sefydliadau'r Cenhedloedd Unedig, y llywodraeth a gwleidyddiaeth, byd busnes, y cyfryngau a PR.

Modiwlau

Byddwch yn astudio pedwar modiwl cysylltiadau rhyngwladol 20-credyd gorfodol, ynghyd â dau fodiwl dewisol arall cyn cyflawni prosiect traethawd hir 60-credyd o'ch dewis chi yn ystod ail hanner y cwrs.

Mae'r modiwlau yn cynnwys materion cysyniadol y gwyddorau cymdeithasol, dulliau o ymdrin â chysylltiadau rhyngwladol a diogelwch rhyngwladol yn Asia a'r Môr Tawel.