Cysylltiadau Rhyngwladol (Estynedig), MA

Datblygu dealltwriaeth ddofn o Ddeinameg Fyd-eang Newidiol

Myfyrwyr y tu allan i Senedd San Steffan

Trosolwg o'r Cwrs

MA Estynedig (EMA) mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn cyflwyno addysgu ysgogol ar y system ryngwladol. Mae'n cwmpasu materion critigol, ffigyrau blaenllaw a dulliau amgen o ddadansoddi a dehongli.

Byddwch yn meithrin gwerthfawrogiad dwfn a chynhwysfawr o ddynameg byd-eang anwadal, cyn arbenigo yn rhanbarth Asia a'r Môr Tawel.

Mae graddedigion y cwrs hwn yn datblygu i ddilyn gyrfaoedd boddhaol ym meysydd llywodraeth a gwleidyddiaeth, sefydliadau'r Cenhedloedd Unedig, y Swyddfa Dramor a sefydliadau dyngarol.

Y sefydliad partner ar gyfer EMA Cysylltiadau Rhyngwladol yw Ysgol Llywodraeth a Gwasanaeth Cyhoeddus Bush ym Mhrifysgol Texas A&M. Sefydlwyd Ysgol Bush ym 1997 ac mae ymhlith 12% uchaf 266 o ysgolion materion cyhoeddus i raddedigion yn UDA, yn ôl sgoriau a gyhoeddwyd yn U.S. News & World Report. Yng Ngholeg Station, Texas, lleolir rhaglenni'r Ysgol yn Adeilad Robert H. a Judy Ley Allen, sy'n rhan o Ganolfan Llyfrgell Lywyddol George Bush ar Gampws Gorllewinol Texas A&M. Mae'r lleoliad yn cynnig mynediad at gasgliadau archifol Amgueddfa a Llyfrgell Lywyddol George Bush i fyfyrwyr, yn ogystal â gwahoddiad i ddigwyddiadau niferus a gynhelir gan Sefydliad George Bush yng Nghanolfan Gynadledda Lywyddol Annenberg a'r cyfle i fod yn rhan o lu o weithgareddau yng nghymuned Texas A&M. Texas A&M yw ail brifysgol fwyaf UDA, ac roedd 66,000 o fyfyrwyr wedi'u cofrestru yn 2016. Mae'n aelod o gymdeithas nodedig, sef Cymdeithas Prifysgolion America, ac un o’r 61 o sefydliadau â'r fraint o fod yn aelod ohoni.

Pam Cysylltiadau Rhyngwladol (Estynedig) yn Abertawe?

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill parch am addysgu cysylltiadau rhyngwladol.

Wedi ein lleoli ar gampws bywiog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe, mae gennym yr arbenigedd a'r holl gyfleusterau modern sydd eu hangen i sicrhau bod yr hyn a ddysgwch yn gyfredol.

Ein Coleg i Raddedigion wedi'i ddylunio i hyrwyddo ymchwil unigol a chydweithredol o safon ryngwladol.

Rhydd amgylchedd cefnogol i gyflawni ymchwil ôl-raddedig ac astudiaethau meistr a addysgir, yn ogystal â hyfforddiant i wella datblygiad academaidd a phroffesiynol.

Eich Profiad Cysylltiadau Rhyngwladol (Estynedig)

Byddwch yn astudio pedwar modiwl cysylltiadau rhyngwladol 20-credyd gorfodol, ynghyd â dau fodiwl dewisol arall cyn cyflawni prosiect traethawd hir 60-credyd o'ch dewis chi yn ystod ail hanner y cwrs.

Mae'r modiwlau gorfodol yn cynnwys: dulliau o ymdrin â chysylltiadau rhyngwladol, diogelwch rhyngwladol yn Asia a'r Môr Tawel, materion cysyniadol y gwyddorau cymdeithasol, ac ôl-wladychiaeth, dwyreinioldeb ac ewroganolaeth. Hefyd, cwmpesir cysyniadau hanesyddol a pholisi allweddol.

Mae cyfres hynod ddiddorol o fodiwlau dewisol yn amrywio o ryfel a'r gofod i wleidyddiaeth ym Mhrydain gyfoes, ac o seiberlywodraethu i ddemocratiaeth a chynllunio'r cyfansoddiad

Cyfleoedd Cyflogaeth Cysylltiadau Rhyngwladol (Estynedig)

Byddwch yn meithrin gwybodaeth ddofn am gysylltiadau rhyngwladol, yn ogystal â sgiliau llafar ac ysgrifennu proffesiynol o'r radd flaenaf.

Mae graddedigion yr MA mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd gyda sefydliadau'r Cenhedloedd Unedig, y llywodraeth a gwleidyddiaeth, byd busnes, y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus.

Modiwlau

Byddwch yn astudio pedwar modiwl cysylltiadau rhyngwladol 20-credyd gorfodol, ynghyd â dau fodiwl dewisol arall cyn cyflawni prosiect traethawd hir 60-credyd o'ch dewis chi yn ystod ail hanner y cwrs.

Mae'r modiwlau yn cynnwys materion cysyniadol y gwyddorau cymdeithasol, dulliau o ymdrin â chysylltiadau rhyngwladol a diogelwch rhyngwladol yn Asia a'r Môr Tawel.