Diogelwch a Datblygu Rhyngwladol, MA

Dysgu pwysigrwydd diogelwch a gwrthdaro mewn perthynas â gwleidyddiaeth

Myfyrwyr y tu allan i Senedd San Steffan

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MA mewn Diogelwch a Datblygu Rhyngwladol yn eich cyflwyno i'r prif faterion a dadleuon critigol sydd ynghlwm wrth faes hynod ddifrifol.

Mae diogelwch, trais a gwrthdaro bellach yn rhan ganolog o wleidyddiaeth ryngwladol a thrafodaethau am bolisi datblygu. Mae deall y byd modern yn mynnu gwerthfawrogi gwrthdaro a thrais yn llawn.

Ar y cwrs hwn byddwch yn edrych ar y sylw a roddir i faterion diogelwch 'traddodiadol' fel rhyfel a gwrthdaro, yn ogystal â materion 'anhraddodiadol' fel sicrwydd economaidd, diogelu'r amgylchedd, iechyd a mudo.

Gan fanteisio ar arbenigedd yr adran ym maes diogelwch, byddwch yn cael cyflwyniad lefel uwch i'r prif agweddau ar astudio diogelwch.

Mae'r rhain yn cwmpasu realaeth, theori diogelu, dulliau ffeministaidd, theori feirniadol ac ôl-strwythuroldeb.

Pam Diogelwch a Datblygu Rhyngwladol yn Abertawe?

Mae gan Brifysgol Abertawe enw da am addysgu diogelwch a datblygu rhyngwladol.

Wedi ein lleoli ar gampws bywiog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe, mae gennym yr arbenigedd a'r holl gyfleusterau modern sydd eu hangen i sicrhau bod yr hyn a ddysgwch yn gyfredol.

Ein Coleg i Raddedigion wedi'i ddylunio i hyrwyddo ymchwil unigol a chydweithredol o safon ryngwladol.

Rhydd amgylchedd cefnogol i gyflawni ymchwil ôl-raddedig ac astudiaethau meistr a addysgir, yn ogystal â hyfforddiant i wella datblygiad academaidd a phroffesiynol.

Eich Profiad Diogelwch a Datblygu Rhyngwladol

Byddwch yn astudio pedwar modiwl cysylltiadau rhyngwladol 20-credyd gorfodol, ynghyd â dau fodiwl dewisol arall cyn cyflawni prosiect traethawd hir 60-credyd o'ch dewis chi yn ystod ail hanner y cwrs.

Mae'r modiwlau gorfodol yn cynnwys: hawliau dynol, ymyrraeth ddyngarol a chyfiawnder byd-eang; astudiaethau diogelwch critigol; a thrais, gwrthdaro a datblygu.

Mae ystod eang o fodiwlau dewisol yn amrywio o ryfel, technoleg a diwylliant i'r broses gwneud penderfyniadau, ac o ailfeddwl llywodraethu byd-eang i ddemocratiaeth a chynllunio'r cyfansoddiad.

Cyfleoedd Cyflogaeth Diogelwch a Datblygu Rhyngwladol

Byddwch yn meithrin gwybodaeth ddofn am ddiogelwch a datblygu rhyngwladol, yn ogystal â sgiliau llafar ac ysgrifennu o'r radd flaenaf.

Mae graddedigion o'r MA mewn Diogelwch a Datblygu Rhyngwladol yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd gyda sefydliadau'r Cenhedloedd Unedig, y llywodraeth a gwleidyddiaeth, y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus.

Modiwlau

Byddwch yn astudio pedwar modiwl cysylltiadau rhyngwladol 20-credyd gorfodol, ynghyd â dau fodiwl dewisol arall cyn cyflawni prosiect traethawd hir 60-credyd o'ch dewis chi yn ystod ail hanner y cwrs.

Y modiwlau gorfodol yw: hawliau dynol, ymyrraeth ddyngarol a chyfiawnder byd-eang; astudiaethau diogelwch critigol; a thrais, gwrthdaro a datblygu.