Gwleidyddiaeth, MA

Datblygu dealltwriaeth ddofn o'r hinsawdd wleidyddol

Myfyrwyr y tu allan i Dai Senedd San Steffan

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MA mewn Gwleidyddiaeth yn rhoi hyfforddiant lefel uchel ysgogol i chi yn elfennau craidd astudiaethau gwleidyddol cyfoes, a sail gadarn mewn sgiliau ymchwil a dulliau damcaniaethol o ymdrin â gwleidyddiaeth.

Yna byddwch yn dewis opsiynau sy'n canolbwyntio ar wleidyddiaeth fyd-eang, gymharol a Phrydeinig, yn ogystal â theori ac athroniaeth wleidyddol.

Mae'r radd hon wedi'i chyfoethogi gan y cyfle am leoedd ar leoliad gwaith, gwirfoddoli a phrofiadau gwaith mewn prosiectau ymchwil bach, yn dibynnu ar argaeledd. Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe, elusen Discovery a arweinir gan fyfyrwyr a Swyddfa Cyflogadwyedd y Gyfadran yma i'ch helpu i ddod o hyd i'r lleoliad gwaith cywir i chi.

Pam Gwleidyddiaeth yn Abertawe?

Mae Prifysgol Abertawe yn cael ei hystyried yn eang yn brif awdurdod o ran addysgu gwleidyddiaeth.

Wedi ein lleoli ar gampws godidog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe, mae gennym yr arbenigedd a'r holl gyfleusterau sydd eu hangen i sicrhau bod yr hyn a ddysgwch yn gyfredol.

Mae Coleg i Raddedigion wedi'i ddylunio i hyrwyddo ymchwil unigol a chydweithredol o safon ryngwladol.

Rhydd amgylchedd cefnogol i gyflawni ymchwil ôl-raddedig ac astudiaethau meistr a addysgir, yn ogystal â hyfforddiant i wella datblygiad academaidd a phroffesiynol.

Eich Profiad Gwleidyddiaeth

Byddwch yn astudio pedwar modiwl cysylltiadau rhyngwladol 20-credyd gorfodol, ynghyd â dau fodiwl dewisol arall cyn cyflawni prosiect traethawd hir 60-credyd o'ch dewis chi yn ystod ail hanner y cwrs.

Mae'r modiwlau gorfodol yn cynnwys: materion cysyniadol yn theori ac ymarfer gwyddorau cymdeithasol; ymdrin â theori wleidyddol; democratiaeth a chynllun cyfansoddiadol; a llywodraethu cymharol mewn systemau cymhleth.

Mae ystod eang o fodiwlau dewisol eraill yn amrywio o ryfel, hunaniaeth a chymdeithas i wleidyddiaeth mewn Prydain gyfoes, ac o seiberlywodraethu i sylfeini economi wleidyddol ryngwladol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwleidyddiaeth

Byddwch yn meithrin gwybodaeth ddofn am wleidyddiaeth ac astudiaethau gwleidyddol, yn ogystal â sgiliau llafar ac ysgrifennu o'r radd flaenaf.

Mae graddedigion o'r MA mewn Gwleidyddiaeth yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd o fewn y llywodraeth a gwleidyddiaeth, byd busnes, y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddsu.

Modiwlau

Byddwch yn astudio pedwar modiwl cysylltiadau rhyngwladol 20-credyd, a dau fodiwl dewisol arall. Yna byddwch yn cyflawni prosiect traethawd hir 60-credyd yn ail ran y cwrs.

Y modiwlau gorfodol yw: materion cysyniadol yn theori ac ymarfer gwyddorau cymdeithasol; ymdrin â theori wleidyddol; democratiaeth a chynllun cyfansoddiadol; a llywodraethu cymharol mewn systemau cymhleth.