Cyfiawnder Troseddol Cymhwysol a Throseddeg, MA

Dysgwch am themâu arloesol mewn Troseddeg

A map of the world showing digital connections across the planet

Trosolwg o'r Cwrs

Mae troseddau, eu hachosion, a sut y dylem ymdrin â nhw, yn y penawdau yn aml, ac mae cyflogwyr yn y llywodraeth ac mewn sectorau eraill yn gwerthfawrogi arbenigedd yn y maes hwn yn gynyddol.

Astudiwch ein MA mewn Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg Gymhwysol er mwyn meithrin gwybodaeth fanwl am achosion trosedd, y system cyfiawnder troseddol a themâu cyfredol o fewn trafodaethau troseddegol.

Gan ddysgu gan arbenigwyr sy'n meddu ar brofiad academaidd ac ymarferol cyfoethog, byddwch yn meithrin lefel o wybodaeth a fydd yn rhoi'r cyfle i chi fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous.

Pam Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn gartref i gymuned academaidd fywiog sy’n ymroddedig i ddeall rhai o faterion mwyaf heriol cymdeithas. 

  • Byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o ddamcaniaethau troseddegol ac o'r system cyfiawnder troseddol
  • Byddwch yn dysgu am y datblygiadau rhyngwladol diweddaraf o ran gwaith ymchwil troseddegol a chyfiawnder troseddol
  • Gallwch astudio effaith ffactorau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ar bolisïau sy'n ymwneud â throseddau a chyfiawnder troseddol

Eich profiad Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg Gymhwysol

  • Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr o'r diwydiant, sy'n meddu ar brofiad academaidd ac ymarferol cyfoethog, mewn ysgol a gaiff ei chydnabod ledled y byd sy'n cynnig cymuned academaidd fywiog sy'n ymrwymedig i ddeall rhai o faterion mwyaf heriol cymdeithas.
  • Mae ein grwpiau darlith bach yn rhoi'r cyfle i chi leisio eich barn a rhannu syniadau.
  • Mae siaradwyr gwadd yn cynnwys uwch ymarferwyr cyfiawnder troseddol, rheolwyr a gwneuthurwyr polisi.
  • Gallwch ymuno â digwyddiadau cymdeithasol a drefnir gan y Gymdeithas Droseddeg a gaiff ei harwain gan fyfyrwyr.

Cyfleoedd cyflogaeth Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg Gymhwysol

Mae'r wybodaeth y byddwch yn ei meithrin ar y cwrs MA hwn mewn Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg Gymhwysol yn golygu y gallwch fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd posibl yn y canlynol:

  • Y sector cyhoeddus – llywodraeth, gwasanaeth sifil, cyngor gwleidyddol a pholisi
  • Y sector preifat – busnes byd-eang, cenedlaethol neu leol
  • Y sector anllywodraethol
  • Ymchwil ac academia

Modiwlau

Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau a addysgir, wedi'u cyflwyno gan staff ymchwil, ac wedyn yn dewis traethawd ysgrifenedig hir traddodiadol neu astudiaeth ymchwil empiraidd, a fydd yn rhoi'r cyfle i chi ganolbwyntio ar faes troseddeg neu gyfiawnder troseddol penodol.