Trosolwg o'r Cwrs
Mae seiberdrosedd a therfysgaeth ymhlith y bygythiadau mwyaf sy'n wynebu cymdeithas ac maent yn flaenoriaethau allweddol i'r llywodraeth ar bob lefel. Bydd y cwrs MA hwn yn cynnig dealltwriaeth fanwl i chi o natur gyson gyfnewidiol troseddau, terfysgaeth ac ymddygiad troseddol ar-lein, gan roi cyfle i chi fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous.
Gan ddysgu gan arbenigwyr o fyd diwydiant, sy'n meddu ar brofiad academaidd ac ymarferol cyfoethog, byddwch yn meithrin gwybodaeth am y bygythiadau, y tueddiadau, y materion a'r ymatebion ym maes terfysgaeth a seiberddiogelwch, yn ogystal â'r cwestiynau moesegol hanfodol.
Bydd ein rhaglen seiberdrosedd a therfysgaeth yn sicrhau eich bod chi'n gallu wynebu bygythiadau trawswladol sy'n tanseilio diogelwch, llywodraethiant a hawliau dynol. Drwy ddadansoddi trosedd wedi'i galluogi gan seiber, eithafiaeth a gwendidau digidol mewn ffordd feirniadol, gallwch ddatblygu sgiliau uwch i gyfrannu at wydnwch byd-eang, arloesi polisi a strategaethau moesegol sy'n mynd i'r afael â materion diogelwch rhyngwladol cymhleth.