Gwaith Cymdeithasol, MSc

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
Social Work

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein gradd Meistr achrededig mewn Gwaith Cymdeithasol yn rhoi i chi’r wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol i’ch galluogi i lansio gyrfa wobrwyol fel gweithiwr cymdeithasol cofrestredig.

Byddwch chi'n astudio moeseg a gwerthoedd  gwaith cymdeithasol, ymarfer hanfodol sy'n ymwneud â'r gyfraith ynghylch gofal plant a gofal oedolion a'r damcaniaethau a'r safbwyntiau allweddol sy'n sail i bolisi ac ymarfer gwaith cymdeithasol.

Byddwch yn treulio hanner eich amser ar leoliad gwaith gydag asiantaethau gwaith cymdeithasol, gan ddysgu trwy arsylwi ac ymarfer a chaiff hanner arall y rhaglen ei haddysgu ar ein Campws Parc Singleton.

Trwy gydol eich astudiaethau, byddwch chi'n mireinio eich sgiliau  ymchwil a dadansoddi hanfodol ynghylch ymarfer a pholisi gwaith cymdeithasol ac yn datblygu technegau ymarfer myfyriol proffesiynol.

Pam Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae ein cwrs wedi'i achredu gan Gofal Cymdeithasol Cymru ac wedi'i gydnabod gan y cyrff rheoleiddio yng nghenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig felly, ar gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, gallwch chi gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol cymwysedig.

Mae gennym ni gysylltiadau ardderchog ag asiantaethau gwaith cymdeithasol yn ne Cymru a gorllewin Cymru ac mewn awdurdodau lleol ac yn y sector gwirfoddol, gan gynnig lleoliadau gwaith mewn ystod o leoliadau.

Gan astudio yn ein Hysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, byddwch chi'n elwa o amgylchedd addysgu ac ymchwil amrywiol, a bydd llawer o gyfleoedd i greu cysylltiadau â myfyrwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau a chenhedloedd.

Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf, mae 75% o'r ymchwil a wneir yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol o safon 3* ac felly mae ei chyrhaeddiad a’i harwyddocâd yn sylweddol. Mae ein ffocws ar allbynnau ymchwil wedi arwain at gynnydd o 21% mewn ymchwil sy'n arwain y byd (REF2021). Mae'r arbenigedd a'r rhagoriaeth ymchwil hyn yn dylanwadu'n uniongyrchol ar ein hymarfer dysgu ac addysgu a chynnwys eich cwrs. 

Cwrs Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Abertawe yw’r 4ydd gorau o’i fath yn y Deyrnas Unedig (Complete University Guide 2023).

Eich profiad Gwaith Cymdeithasol

Mae ein holl staff addysgu'n weithredol ym myd ymchwil yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys meysydd amrywiol megis plant sy'n derbyn gofal, cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr mewn addysg, plant sy'n ceisio lloches a mudwyr, a chynhwysiant cymdeithasol ac anghenion gofal pobl hŷn.

Byddwch chi'n ymuno â phrifysgol a enwyd yn 'Brifysgol y Flwyddyn' ac a ddaeth yn ail yn y categori Ôl-raddedig' yng Ngwobrau What Uni Student Choice 2019.

Gyrfaoedd mewn Gwaith Cymdeithasol

Gallwch ddisgwyl cyflog dechreuol o oddeutu £36,648 fel gweithiwr cymdeithasol newydd gymhwyso. Mae cyflogau ar gyfer uwch-ymarferwyr a rheolwyr tîm yn amrywio rhwng £44,428 a £52,516.

Modiwlau

Mae'r cwrs hwn wedi'i strwythuro'n dynn, un seiliedig ar wyth modiwl gorfodol dros ddwy flynedd, gan gynnwys traethawd estynedig yn eich ail flwyddyn.