Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MSc mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd yn gwrs hirsefydlog sydd wedi'i ddylunio i fodloni ffurfiau amrywiol ymarfer iechyd cyhoeddus. Bydd eich astudiaethau'n integreiddio damcaniaeth ac ymarfer iechyd cyhoeddus, gyda ffocws cryf ar hybu iechyd, er mwyn darparu cyfraniadau sylweddol i'r gwasanaeth iechyd cyhoeddus ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Wrth astudio ochr yn ochr â myfyrwyr o amrywiaeth o ddiwydiannau a phroffesiynau, byddwch yn datblygu dealltwriaeth o natur amlddimensiynol iechyd cyhoeddus, gan ystyried y safbwynt meddygol traddodiadol a phenderfynyddion cymdeithasol-economaidd ehangach iechyd.
Mae cynnwys ein cwrs wedi'i lywio gan bolisi rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang, gan ddarparu deilliannau dysgu perthnasol ar gyfer myfyrwyr cartref a myfyrwyr rhyngwladol, ac mae'r sail dystiolaeth ar gyfer ymarfer iechyd cyhoeddus yn sail i'r holl addysgu, a hynny er mwyn adeiladu cwrs lle mae myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio mewn maes iechyd cenedlaethol a byd-eang.