Byddwch yn cael eich addysgu gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau addysgu dros gyfnod o naw mis. Bydd y rhaglen yn cael ei fframio o amgylch Cam 2 a 3 y Fframwaith Cymhwysedd Cenedlaethol ar gyfer Nyrsys Cofrestredig mewn Gofal Critigol i Oedolion, a gyflwynir trwy ddysgu anghydamserol a chydamserol.
Trwy gyfuniad o ddulliau ac adnoddau addysgu, yn ogystal â’r gwaith gyda’ch mentor dynodedig, byddwch yn cynnal amrywiaeth o asesiadau a fydd yn eich galluogi i fodloni’r holl ddeilliannau dysgu a datblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer ymarfer gofal critigol cyfoes. Bydd y portffolio o asesiadau yn eich galluogi i ddangos eich gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol esblygol o ofal critigol, sgiliau addysgu a goruchwylio, sgiliau gwneud penderfyniadau ac asesu a sgiliau arwain.
Felly, defnyddir cyfuniad o ddulliau addysgu ac adnoddau drwy gydol y rhaglen. Bydd y rhaglen yn hwyluso dysgu damcaniaethol anghydamserol a chydamserol a sesiynau efelychu cydamserol. Defnyddir cwisiau, byrddau trafod a llyfrau gwaith. Bydd pob diwrnod anghydamserol hefyd yn cynnwys sesiwn gydamserol gyda chyfarwyddwr y rhaglen fel cymorth ychwanegol a hyrwyddo dysgu gweithredol.
Bydd eich dysgu yn cael ei gyfeirio at eich galluogi i ddatblygu'r sgiliau i gefnogi eich dealltwriaeth o rolau, cyfrifoldebau, a chwmpas ymarfer yn ddiogel trwy ystod o ddulliau dysgu ac addysgu.
Fel arfer cynhelir sesiynau sgiliau ymarferol, gweithdai gan siaradwyr allanol ac ymarferion chwarae rôl wyneb yn wyneb, gan ganiatáu ar gyfer trafodaethau a dadleuon wyneb yn wyneb. Byddwch hefyd yn elwa o ddysgu efelychu yn ystod y rhaglen a fydd yn helpu i atgyfnerthu a datblygu eich gwybodaeth glinigol a damcaniaethol. Er hynny, mae ein dull hefyd yn cynnwys defnyddio rhywfaint o ddysgu ar-lein i gefnogi a gwella addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol, gan gynnwys cwisiau, byrddau trafod a llyfrau gwaith.
Mae'r rhaglen wedi'i strwythuro'n dynn gyda'r modiwl cyntaf yn digwydd o fis Medi i fis Ionawr, a'r ail fodiwl o fis Ionawr i fis Mehefin.