Nyrsio (Iechyd Meddwl), MSc

Mae Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe ymysg y 200 gorau yn y byd

QS World University Rankings by Subject 2024

nursing pre reg

Trosolwg o'r Cwrs

Os yr ydych wedi graddio ac yn gweithio mewn lleoliad gofal iechyd ac yn ystyried mynd â'ch gyrfa i'r lefel nesaf, mae ein MSc mewn Nyrsio Iechyd Meddwl ar eich cyfer chi.

Wedi'i gynllunio ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd nad ydynt wedi'u cofrestru, bydd y cwrs gradd Meistr dwy flynedd hwn yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi i lansio gyrfa werth chweil yn y proffesiwn hanfodol hwn.

Bydd ein MSc mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn rhoi'r wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol sydd ei hangen arnoch i ddarparu gofal nyrsio tosturiol o ansawdd uchel i bobl sy'n delio â salwch meddwl, yn ogystal â darparu cefnogaeth i'w teuluoedd.

PAM NYRSIO IECHYD MEDDWL YM MHRIFYSGOL ABERTAWE

Mae gennym enw rhagorol am Nyrsio yn Abertawe ac rydym ymysg y 200 gorau yn y byd am Nyrsio (QS World University Rankings by Subject 2024).

Mae ein staff academaidd yn nyrsys, meddygon a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd cymwys, llawer ohonynt hefyd yn glinigwyr gweithredol, gan ddarparu cyfuniad eithriadol o drylwyredd damcaniaethol, mewnwelediad proffesiynol ac arbenigedd ymarferol.

Mae gennym gysylltiadau cryf iawn â byrddau iechyd Cymru, gan agor cyfleoedd lleoliadau clinigol i chi mewn amrywiaeth o leoliadau mewn lleoliadau trefol a gwledig.

Os medrwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am 18 mis wedi graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu yn llawn drwy Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Eich Profiad Nyrsio (Iechyd Meddwl)

Mae ein cyfleusterau rhagorol yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys ystafell glinigol realistig fel y gallwch roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu mor agos â phosibl yr union amodau y byddwch yn eu profi wrth fynd ar leoliad mewn ysbyty neu lleoliad cymunedol.

Byddwch yn treulio 40 wythnos o'ch cwrs ar leoliad, gan ennill profiad mewn ystod amrywiol o leoliadau nyrsio, gan gynnwys ysbytai a'r gymuned.

Gallwch hefyd astudio rhan o'ch gradd Meistr nyrsio trwy gyfrwng y Gymraeg ac efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer ysgoloriaethau mewnol neu gymorth ariannol drwy'r Coleg Cymraeg.

Cyfleoedd Cyflogaeth Nyrsio (Iechyd Meddwl)

Ar ôl graddio, gallwch wneud cais am statws Nyrs Gofrestredig (Iechyd Meddwl) gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a chofrestru fel nyrs i weithio yn yr UE a'r AEA.

Wrth i'ch gyrfa ddatblygu gallech ddewis arbenigo mewn meysydd fel gofal i'r henoed, ymyrryd mewn argyfwng neu gamddefnyddio sylweddau. Gallech hefyd gymryd rhan mewn rolau ym meysydd addysg, ymchwil neu reoli.

Gallwch ddisgwyl cael cyflog cychwynnol o £28,407 sy'n codi i £57,349 i staff-nyrs brofiadol iawn. Gall nyrsys arbenigol a rheolwyr practis ennill £50,056.

Modiwlau

Cwrs strwythuredig tynn yw hwn, sy'n cynnwys dau fodiwl gorfodol ym mhob blwyddyn ynghyd â thraethawd hir yn eich ail flwyddyn.