Nyrsio (Oedolion), MSc

Mae Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe ymysg y 200 gorau yn y byd

QS World University Rankings by Subject 2024

pre-reg nursing

Trosolwg o'r Cwrs

Os ydych chi'n berson graddedig yn gweithio mewn lleoliad gofal iechyd ac yn ceisio cymryd eich gyrfa i'r lefel nesaf, mae ein MSc mewn Nyrsio Oedolion ar eich cyfer chi.

Wedi'i gynllunio ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd nad ydynt yn gofrestredig, bydd y cwrs gradd Meistr dwy flynedd hon yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi i lansio gyrfa werth chweil yn y proffesiwn hanfodol yma. Byddwch chi’n dysgu am anghenion cyfannol pobl o oedolaeth gynnar i henoed. 

Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn datblygu'r sgiliau i asesu, cynllunio, cyflwyno a gwerthuso gofal yn seiliedig ar dystiolaeth i hybu iechyd a lles oedolion â chyflyrau difirfol a chronig.

Pam Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gennym enw rhagorol am Nyrsio yn Abertawe ac rydym ymysg y 200 gorau yn y byd am Nyrsio (QS World University Rankings by Subject 2025).

Mae ein staff academaidd yn nyrsys cymwys, meddygon, a gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig, ac mae llawer ohonynt hefyd yn ymarfer clinigwyr, gan ddarparu cyfuniad eithriadol o gywirdeb damcaniaethol, mewnwelediad proffesiynol ac arbenigedd ymarferol.

Mae gennym gysylltiadau cryf iawn â byrddau iechyd Cymru, gan agor cyfleoedd lleoliad gwaith clinigol i chi mewn amrywiaeth o leoliadau mewn lleoliadau trefol a gwledig.

Os gallwch chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am 18 mis wedi graddio, gallir talu eich ffioedd dysgu’n llawn trwy Bartneriaeth Gwasanaethau Rhanedig GIG Cymru.

Eich profiad Nyrsio Oedolion

Mae ein cyfleusterau rhagorol yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys ystafell glinigol realistig fel y gallwch chi roi eich gwybodaeth theori yn ymarferol mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu mor agos â phosib yr amodau gwirioneddol y byddwch yn eu cael pan fyddwch chi'n mynd ar leoliad mewn ysbyty neu leoliad cymunedol.

Byddwch yn treulio 40 wythnos o'ch cwrs ar leoliad, gan ennill profiad mewn amrywiaeth eang o leoliadau nyrsio, gan gynnwys ysbytai, y gymuned, a chartrefi nyrsio.

Gallwch hefyd astudio rhan o'ch gradd Meistr nyrsio trwy gyfrwng y Gymraeg a gallech fod yn gymwys i gael ysgoloriaethau mewnol neu gymorth ariannol trwy’r Coleg Cymraeg.

Cyfleoedd gyrfa Nyrsio Oedolion

Ar ôl graddio, gallwch wneud cais am statws Nyrs Gofrestredig (Iechyd Meddwl) gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a chofrestru fel nyrs i weithio yn yr UE a'r AEA.

Gallwch ddisgwyl cael cyflog cychwynnol o £28,407 sy'n codi i £57,349 i staff-nyrs brofiadol iawn. Gall nyrsys arbenigol a rheolwyr practis ennill £50,056. 

Modiwlau

Cwrs hynod strwythuredig yw hwn, sy'n cynnwys dau fodiwl gorfodol ym mhob blwyddyn ynghyd â thraethawd hir yn eich ail flwyddyn.